Skip to main content

Datblygu cynaliadwy yng Nghymru

Mae datblygu cynaliadwy yn cwrdd ag anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i gwrdd â'u hanghenion hwythau

Pan sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, daeth Cymru’n un o'r ychydig o wledydd yn y byd â dyletswydd gyfreithiol yn ymwneud â datblygu cynaliadwy.

Disgrifir hyn yn aml fel: ‘Datblygu sy’n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.’

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraethau Cymru wedi bod yn gweithio i osod datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi i Gymru ran flaenllaw yn y gwaith o helpu pobl a natur i ffynnu, gan osod esiampl i wledydd eraill.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Yn 2015, daeth Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn un o Ddeddfau’r Cynulliad, gan olygu ei bod yn gyfraith Gymreig.

Mae’r Ddeddf yn cynnig cyfle gwych. Mae’n corffori yn y gyfraith yr egwyddor y dylem "weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau". 

Rydym ni’n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn un radical sy’n torri tir newydd. Gobeithiwn y bydd yn annog gwledydd eraill i ganolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy.

Mae’r Ddeddf yn pennu nifer o nodau. Y tri sy’n fwyaf arwyddocaol i ni yw:

  • Cymru lewyrchus: Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy'n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd)
  • Cymru gydnerth: Cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang: Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Rydym wedi helpu i sefydlu cymuned o fwy nag 20 o elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol yng Nghymru y mae eu gwaith yn cynorthwyo pobl a natur i ffynnu, o’r enw y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy. Ymgyrchodd y Gynghrair yn llwyddiannus dros ddeddf gref.

Mae ein cefnogwyr hefyd wedi chwarae rhan bwysig. Trwy ymgyrch Dymuniad Cymru, dywedodd pobl o bob rhan o Gymru wrth benderfynwyr eu bod yn malio am ddyfodol lle rydym yn byw mewn cytgord â natur. Wedi ymgyrchu dros basio’r Ddeddf, erbyn hyn rydym yn canolbwyntio ar sicrhau y caiff ei chyflawni.

GWEITHIO GYDA LLYWODRAETH CYMRU

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gyfraith sy’n torri tir newydd ac sydd â photensial enfawr i wneud Cymru’n genedl gynaliadwy, gan osod esiampl gref i wledydd eraill.

Ond nid pasio’r gyfraith hon yw diwedd yr hanes. Yn awr mae’n hanfodol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus roi’r ddeddfwriaeth ar waith.

Rydym eisiau i’r Ddeddf greu newid go iawn, gan sicrhau y gwneir penderfyniadau i helpu pobl a natur i ffynnu, yn awr ac yn y tymor hir. Mae hyn yn golygu ymagwedd gydgysylltiedig sy’n dwyn ynghyd amgylchedd iach gyda diwylliant, economi a chymdeithas sy’n ffynnu.

Er mwyn llwyddo, mae arnom angen newidiadau mawr i’r ffordd mae’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio. Bydd hyn yn golygu newid diwylliannol a fydd yn cymryd amser, ond ar gyfer rhai problemau mae ein gwlad a’r byd yn eu hwynebu, fel y bygythiadau i natur a’r newid yn yr hinsawdd, nid oes amser i aros, mae angen gweithredu ar unwaith.

I sicrhau y bydd hyn yn digwydd, mae arnom angen arweinyddiaeth ac ymrwymiad gwleidyddol. Bydd angen i’r gwasanaeth sifil hefyd weithio’n effeithiol i newid y ffordd mae’n cynnal busnes, gan gynnwys cydweithio ag eraill a datblygu enghreifftiau o’r ffordd y mae datblygu cynaliadwy’n gweithio’n ymarferol.

Ar ôl i’r Ddeddf gael ei phasio yn 2015, comisiynasom ymchwil i’r graddau mae Llywodraeth Cymru’n cyflawni’r Ddeddf ar draws gwahanol adrannau a rhaglenni. Gallwch lawrlwytho’r adroddiad hwn yma (Saesneg yn unig).

Daeth yn glir bod yna enghreifftiau da o le roedd y Ddeddf yn cael ei defnyddio ond bod llawer o waith i’w wneud i drosi’r gyfraith hon yn gamau gweithredu, er mwyn sicrhau bod datblygu cynaliadwy’n ganolog i holl benderfyniadau’r Llywodraeth.

GWEITHDAI

Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, yn 2018 rydym wedi gweithio gyda swyddogion y Llywodraeth i edrych ar sut i gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn effeithiol. Penderfynasom gydgynllunio a chyd-gynnal cyfres o weithdai i weision sifil a sefydliadau yn y trydydd sector.

Y nodau oedd:

  • Sicrhau gwell dealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid o bersbectifau a phrofiadau o roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith
  • Sicrhau dealltwriaeth o’r disgwyliadau o ran cyflawni effeithiol ar lefel “Llywodraeth gyfan” ac ar lefel rhaglenni/prosiectau
  • Nodi meysydd arfer da a meysydd ar gyfer newid
  • Cytuno ar y camau nesaf yn y meysydd ar gyfer gwella.

Gallwch lawrlwytho’r adroddiad ar y gweithdai, a gyd-gynhyrchwyd gyda Llywodraeth Cymru, yma.

Roedd y gweithdai hyn a’r adroddiad yn gam mawr ymlaen wrth ddeall sut olwg ddylai fod ar gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn effeithiol, yn nhermau gweithio mewn partneriaeth ac yn nhermau creu syniadau cyffredin ynghylch ei rhoi ar waith yn llwyddiannus.

CAMAU NESAF

Yn dilyn y gweithdai, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’n sylweddol y gweithredu dros natur. Mae hyn yn cynnwys rhoi ar waith y syniadau yn yr adroddiad ar y gweithdai er mwyn manteisio’n llawn ar y cyfle a gynigir gan y ddeddfwriaeth gref ar ddatblygu cynaliadwy sydd gan Gymru.

Mae mwy o frys byth am weithredu yng ngoleuni’r rhybuddion clir a ddaw o’r dystiolaeth fwyaf diweddar am gyflwr ein planed. Datgelodd y Living Planet Report 2018 fod prinhad cyflym poblogaethau mamaliaid, ymlusgiaid, amffibiaid, adar a physgod o gwmpas y byd yn arwydd amlwg bod angen cymorth ar natur, gan fod meintiau poblogaethau bywyd gwyllt wedi gostwng 60 y cant ar gyfartaledd ers 1970. Mae’r tueddiadau byd-eang yn cael eu hadlewyrchu yng Nghymru, lle mae 1 ym mhob 14 o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu. Hefyd, mae’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi rhybuddio fod y newid yn yr hinsawdd eisoes yn digwydd a bod trychineb hinsawdd yn anochel os na fyddwn yn gweithredu yn awr.