Skip to main content
Water vole (Arvicola amphibius) eating aquatic vegetation, Kent, UK

Mae’r byd yn wynebu her driphlyg

Mae Cymru’n haeddu economi ffyniannus, aer glân, dŵr heb lygredd a chyflenwad dibynnol o fwyd maethlon, fforddiadwy. Mae natur yn hanfodol i’n goroesiad, mae pawb ohonom yn dibynnu arno – am fwyd, dŵr, aer a deunyddiau crai. Er hynny, mae rhywogaethau a chynefinoedd yn diflannu’n frawychus o gyflym, yn bennaf oherwydd ein dulliau cynhyrchu bwyd.

Mae’r byd yn wynebu her driphlyg: atal newid hinsawdd, gwrthdroi colli natur, a sicrhau bod gan bobl ddigon o fwyd iach i fwyta.

Mae’r cysylltiad rhwng y tri pheth yn golygu os allwn gwrdd â’r her hwn, byddwn yn adfer natur ac yn ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn hefyd yn: 

  • creu swyddi gwyrdd newydd,
  • sicrhau dyfodol i gynhyrchu bwyd,
  • gwella’n gallu i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd,
  • ac yn mynd i’r afael â’r cyfraddau gordewdra a thlodi bwyd sy’n codi. 
Gorse burning, Wales

Nid yw ein gwleidyddion wedi gweithredu digon

Mae natur a hinsawdd Cymru’n ddioddef. 

Mae mwy o lifogydd, sychder, tanau gwyllt ac ansicrwydd bwyd yn effeithio ar brosesau cynhyrchu bwyd a chostau byw i deuluoedd. 

Ond mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi methu cyfleoedd hanfodol i wneud cynnydd – yn torri addewidion, yn oedi neu’n gwanhau newidiadau. 

Nid yw Cymru ar y trywydd cywir i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 58% erbyn 2030, allyriadau sero net erbyn 2050, a rhoi terfyn ar golli natur a’i wrthdroi erbyn 2030, fel yr addawodd mewn cytundebau bioamrywiaeth byd-eang. 

Mae tywydd eithafol a waethygwyd gan newid hinsawdd fel sychder a llifogydd yn costio degau o filiynau o bunnoedd i ffermwyr Cymru bob blwyddyn. Yn 2022-23, ychwanegodd effaith newid hinsawdd £361 i fil bwyd pob aelwyd yn y DU ar gyfartaledd (Uned Ynni a Gwybodaeth Hinsawdd).  

Etholiadau Senedd 2026 - Pedair ffordd i adfywio Cymru

An otter diving from a grassy bank into a river

Ein hymrwymiadau ar gyfer 2030

Mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi methu cyfleoedd hanfodol i wneud cynnydd. 

Bydd ein hymrwymiadau ar gyfer 2030 ar y gorwel yn ystod tymor Senedd 2026 

Dyma ein cyfle olaf i weithredu. Mae Cymru’n haeddu arweinyddiaeth sy’n cyflawni, nid yn oedi. 

Mae’n amser inni adfywio ein tir, afonydd a moroedd – dros natur, dros bobl, a dros genedlaethau’r dyfodol.