Skip to main content

17 July 2025

Press Release


For immediate release

Office: +44 (0) 29 20538512

Out of hours: +44 (0)7881 386445   

Email: sgraham@wwf.org.uk

Arolwg newydd yn dangos cefnogaeth gryf gan y cyhoedd yng Nghymru i ddileu llygredd yn afonydd a moroedd Cymru

WWF Cymru yn lansio maniffesto’n pennu sut y gall Llywodraeth nesaf Cymru adfywio’n hafonydd a’n moroedd trwy weithredu ar frys.  

  • Mae 87% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i leihau, a lle bo’n bosibl dileu llygredd afonydd a achosir gan amaethyddiaeth a charthion. 
  • Mae’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi’n gryf (79%) adfer cynefinoedd morol llawn carbon fel morwellt, morfa heli a riffiau wystrys, gan wella iechyd ein môr. Caiff y cynefinoedd hyn eu heffeithio’n negyddol gan ormod o faethynnau yn y dŵr.  
  • Mae 81% o bobl yn cefnogi pennu targed cenedlaethol i haneru llygredd dŵr croyw erbyn 2030. 
  • Mae 89% yn cefnogi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y rhai sy’n torri rheolau llygredd afon ar raddfa fawr neu sy’n ad-droseddu. 
  • Mae 86% yn cefnogi camau gweithredu i leihau llygredd o’r tir i’r dŵr trwy adfer cynefinoedd glan afon.  
  • Mae 70% yn cefnogi camau gweithredu i leihau’r lefelau o wrtaith a phlaladdwyr a ganiateir, sy’n llygru ein dŵr yn eu tro. 

  

Mae arolwg newydd gan WWF Cymru yn dangos cefnogaeth sylweddol (87%) gan y cyhoedd yng Nghymru i weithredu gan Lywodraeth Cymru i leihau a dileu llygredd afonydd a achosir gan amaethyddiaeth a charthion. Mae afonydd Cymru a’r môr mewn cyflwr enbyd. Gwenwynwyd llawer o’n dyfrffyrdd gan lygredd, gyda chanlyniadau trychinebus i bobl a bywyd gwyllt. Mae niferoedd eogiaid a sewin yn plymio dros y dibyn, a 70% wedi’i golli yn ystod y degawd diwethaf. Yn y DU, collwyd hyd at 92% o’r dolydd morwellt a 85% o’r morfeydd heli.    

Mae’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi’n gryf (79%) adfer cynefinoedd morol llawn carbon fel morwellt, morfa heli a riffiau wystrys, gan wella iechyd ein môr. I wneud hyn, mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â’r llygredd sy’n mygu’n hafonydd ac sy’n llifo’n syth i mewn i’n moroedd. Mae ansawdd dŵr gwael yn difrodi cynefinoedd morol naturiol fel morwellt, gwelyau gwymon a morfa heli.

Gormod o faethynnau mewn dŵr ffo amaethyddol o ffermdir sy’n gyfrifol am feintiau sylweddol o lygredd mewn afonydd a’r môr. Pan fydd y llygredd hwn gan faethynnau o’r tir yn cyrraedd y môr, mae’n hybu twf gordyfiannau algâu sy’n atal golau’r haul rhag cyrraedd pysgod a phlanhigion, ac sy’n gallu gorchuddio gwely’r môr. Mae hyn yn niweidio ecosystemau morol a gallu’r môr i ddal carbon, gan greu amodau heriol ar gyfer y gwaith o adfywio neu adfer cynefinoedd llawn carbon, fel morwellt.

Yn gynharach eleni, cadarnhaodd CNC bod 7 o’r 9 afon fwyaf gwarchodedig yng Nghymru’n methu oherwydd lefelau uchel o faethynnau. Rydym yn gweld darlun tebyg yn y môr a disgwyliwn i adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru a gyhoeddir yn hwyrach heddiw gadarnhau lefelau uchel o fethiannau o ran lefelau maethynnau yn nyfroedd arfordirol Cymru hefyd. Mae’r cyhoedd yng Nghymru wedi cael digon ac mae’n cefnogi sawl cam gweithredu sydd angen eu cymryd ar frys i lanhau afonydd Cymru. Mae 7 ym mhob 10 ohonynt (68%) yn cefnogi’r syniad bod Llywodraeth Cymru yn talu ffermwyr i newid eu dulliau ffermio er mwyn amddiffyn natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae 7 ym mhob 10 (70%) o’r rhai a gymerodd rhan yn yr arolwg yn cefnogi camau gweithredu i leihau’r lefelau o wrtaith a phlaladdwyr a ganiateir yng Nghymru. Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i haneru llygredd a achoswyd gan golli gormod o faethynnau erbyn 2030, fel rhan o’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Rhaid i Gymru chwarae ei rhan yn y gwaith o gyflawni’r ymrwymiad hwn.

 

Esboniodd Shea Buckland Jones, Pennaeth Polisi ac Eirioli WWF Cymru: “Yng Nghymru, mae ein gwerthfawrogiad o natur a’n cysylltiad i’n tirweddau a’r afonydd a môr sy’n siapio’r tirweddau hynny’n wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein hunaniaeth, felly nid yw’n syndod bod ein harolwg yn adlewyrchu cefnogaeth aruthrol gan y cyhoedd yng Nghymru dros weithredu i roi terfyn ar y llygredd sy’n mygu ein hafonydd a’n moroedd.”

Ychwanegodd Shea ”Mae sefyllfa enbyd y llygredd yn ein hafonydd a môr a ddatgelwyd heddiw yn dangos bod angen i’r Llywodraeth weithredu ar frys i adfywio ein hafonydd a rhoi terfyn ar y llygredd sy’n mygu ein môr. Yn drist, nid oes angen i’r cyhoedd yng Nghymru weld yr adroddiad hwn i werthfawrogi cyflwr enbyd ein dyfrffyrdd gan ei fod yn gwbl amlwg. Dyma pam fod cymaint o gefnogaeth ledled Cymru i adfywio iechyd afonydd Cymru yn llawn. Fel y nodwyd gennym yn ein maniffesto newydd, mae hyn yn golygu gweithredu’n gyson i adfer ecosystemau ac i atal yr holl ffynonellau o lygredd afonydd, gan ganolbwyntio ar y ddwy ffynhonnell fwyaf: amaethyddiaeth a charthion.”

 

Mae ein moroedd yn cefnogi diwydiannau hanfodol fel pysgota, twristiaeth, cynhyrchu ynni ar y môr a morgludiant, ac maent wedi eu hymwreiddio’n ddwfn yn ein hetifeddiaeth ddiwylliannol. Bydd sicrhau iechyd ein hamgylchedd morol yn creu buddion economaidd i Gymru hefyd. Er enghraifft, mae gan wymon y potensial i fod gwerth o leiaf £105 miliwn y flwyddyn erbyn 2030 a chreu bron 1,000 o swyddi yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.    

  

 DIWEDD

Nodiadau i olygyddion  

Maniffesto cyfan WWF Cymru

Ynghylch WWF        

WWF (Worldwide Fund for Nature) yw un o'r sefydliadau cadwraethol annibynnol mwyaf yn y byd, sy'n gweithredu mewn bron can gwlad. Mae ein cefnogwyr – mwy na phum miliwn ohonynt – yn ein helpu i adfer natur ac i fynd i’r afael â phrif achosion dirywiad natur, yn arbennig y system bwyd a newid hinsawdd. Rydym yn brwydro i sicrhau byd â chynefinoedd a rhywogaethau sy’n ffynnu, ac i newid meddyliau a chalonnau fel y daw’n annerbyniol gorddefnyddio adnoddau ein planed.   

WWF. Dros eich byd.         

Dros fywyd gwyllt, dros bobl, dros natur.   

Cewch wybod mwy am ein gwaith, yn y gorffennol a’r presennol ar http://www.wwf.org.uk/ 

For further information or to arrange an interview, please contact:     

Sarah Graham sgraham@wwf.org.uk ,Rheolwr Cyfathrebu | Communications Manager, WWF Cymru.  

Ffôn: +44 (0) 29 20538512 | Symudol: +44 (0)7881 386445