Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Cymru wedi profi sawl digwyddiad tywydd eithafol gan gynnwys llifogydd, sychder a thanau gwyllt. Maen nhw'n cael effaith erchyll ar ein cymunedau a'n hamgylchedd.
Mae adroddiad annibynnol, a gomisiynwyd yn ddiweddar gan WWF Cymru, yn archwilio graddfa'r risg llifogydd yng Nghymru a sut y gallwn ni ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur er mwyn magu gwytnwch mewn ymateb i dywydd eithafol cynyddol.
Beth yw Rheoli Llifogydd Naturiol (NFM)?
Mae Rheoli Llifogydd Naturiol (NFM) yn golygu defnyddio natur i arafu llif y dŵr a'i storio yn y tir. Mae hyn yn helpu amddiffyn ffermwyr a chymunedau rhag digwyddiadau tywydd eithafol fel llifogydd neu sychder.
Mae dulliau naturiol yn cynnwys pethau fel plannu coed, adfer gwlypdiroedd a defnyddio cnydau gorchudd sy'n helpu'r pridd i ddal mwy o ddŵr.
Mae NFM yn cynnig manteision amgen i bobl a natur. Er enghraifft, mae'n helpu lleihau llygredd yn ein hafonydd, cynyddu bioamrywiaeth a gwella ein system fwyd.
Graddfa risg llifogydd yng Nghymru
Mae tua 275,000 o eiddo yng Nghymru yn wynebu risg llifogydd. Mae hyn yn cyfateb i ryw un o bob saith. Mae ymchwil yn dangos bod newid hinsawdd pellach yn debygol o arwain at 4,200 o eiddo yng Nghymru yn dioddef llifogydd bob blwyddyn, yn costio tua £93 miliwn mewn difrod blynyddol.
Mewn rhai mannau, mae'r awdurdodau'n eu chael hi'n gynyddol anodd cyfiawnhau buddsoddiad mewn amddiffynfeydd llifogydd. Ac mae penderfyniadau anodd eisoes wedi eu gwneud i adleoli pobl, fel yn achos Rhondda Cynon Taf. Mae rhai ardaloedd arfordirol hefyd yn wynebu dyfodol ansicr wrth i gadw a chynnal amddiffynfeydd rhag y môr ddod yn anoddach i'w cyfiawnhau.
Cyfleoedd
Wrth i'r hinsawdd droi'n wlypach ac wrth i ni brofi mwy o dywydd eithafol, gallwn ni adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi dechrau er mwyn hyrwyddo atebion naturiol i'r broblem gynyddol hon.
Mae gan Gymru'r dystiolaeth, y mandad gwleidyddol a'r fframwaith polisi i gefnogi cynnydd sylweddol wrth ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur. Mae NFM yn cynnig datrysiad graddadwy a manteision lluosog sy'n gallu ein helpu i fagu gwydnwch hirymor.
Ac mae cyfle go iawn gennym i wneud buddsoddi mewn NFM yn brif ffrwd.
Heriau
Er bod manteision hybu atebion sy'n seiliedig ar natur yn amlwg yn yr achos hwn, mae heriau i'w goresgyn.
Mae gennym gefnogaeth polisi gref ond nid yw NFM yn cael ei ddefnyddio'n ddigon eang. Yn aml caiff ei drin fel mesur cyflenwol neu ddewis olaf pan fo opsiynau perianneg yn rhy ddrud.
Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn ddiweddar o ran buddsoddiad mewn rheoli llifogydd yng Nghymru. Er hynny, roedd llai na 2% o'r cyllid rheoli risg llifogydd am 2022-26 yn mynd at NFM.
"Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi cyfle gwych i gysylltu ffermwyr o wahanol dirweddau i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur. Pethau fel gwlyptiroedd, plannu coed, priddoedd iach a mawndiroedd. Os yw Cymru am ddod yn fwy gwydn i risgiau sychder a llifogydd yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni ymgorffori gweithio gyda natur fel y norm, yn hytrach na'r eithriad."