Skip to main content
Cyflwyno tystysgrif Cynnig Cymraeg i staff WWF Cymru

Elusen fyd-eang amgylcheddol WWF yn derbyn y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg

Cyhoeddwyd heddiw bod elusen amgylcheddol a byd natur WWF Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg gan Efa Gruffudd-Jones, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg. Y Cynnig Cymraeg yw cydnabyddiaeth swyddogol gan y Comisiynydd i sefydliadau sydd wedi creu cynllun datblygu'r Gymraeg.

WWF yw un o sefydliadau cadwraeth elusennol annibynnol mwyaf y byd, sy’n gweithredu mewn bron i 100 o wledydd. Mae WWF Cymru yn rhan o WWF-UK gyda swyddfa yng Nghaerdydd, a staff wedi eu lleoli ar draws Cymru gyda hanner y tîm yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu’n siaradwyr newydd.

Yng Nghymru maent yn gweithio ar weithredu a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur adref a thramor, gan ddylanwadu ar gyfreithiau amgylcheddol a chynaliadwyedd arloesol ar waith.

Mewn ymateb dywedodd Gareth Clubb, Cyfarwyddwr WWF Cymru

“O’r amser y sefydlwyd WWF Cymru yn 2000 doedd dim amheuaeth y byddai gweithredu’n ddwyieithog, gan roi pwysigrwydd cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg, yn flaenoriaeth. Gan adeiladu ar y Polisi Iaith Gymraeg wreiddiol, bydd y Cynnig Cymraeg newydd yma yn diweddaru cynlluniau WWF ac yn pwysleisio ein ymrwymiad i weithredu a hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU a’r byd hefyd. Rydym yn falch iawn o gynnig ystod o wasanaethau i’n cefnogwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym yn gweithio ar ychwanegu at y gwasanaethau yma mewn cydweithrediad â’n timau ar draws y DU megis adnoddau addysg. Rydyn i’n edrych ymlaen at weld faint mwy y gallwn ei wneud.”

Logo Cynnig Cymraeg

Fel rhan o sefydliad rhyngwladol mae cael cynllun y Cynnig Cymraeg yn ei le yn rhoi canllawiau clir i staff ar sut i weithredu a darparu gwasanaethau yng Nghymru, ac yn rhoi statws swyddogol i’r iaith.

Drwy ddefnyddio’r cynllun fel canllaw ac arf i berswadio llwyddwyd i ddylanwadu ar gynnwys ymgyrchoedd enfawr ar draws y DU megis Achub ein Hynysoedd Gwyllt (Save our Wild Isles) gafodd ei ysbrydoli gan gyfres Wild Isles y BBC, yn ogystal ag ymgyrch Cynllun Natur y Bobl (People’s Plan for Nature).

Paratowyd ystod o ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu a gweithgareddau oedd nid yn unig yn ddwyieithog, ond hefyd yn defnyddio geirfa a delweddau addas ar gyfer Cymru. 

Dywed Prif Weithredwr WWF-UK, Tanya Steele wrth i’r sefydliad dderbyn y Cynnig Cymraeg -

Ein cenhadaeth yn WWF yw i greu byd lle gall pobl a bywyd gwyllt ffynnu gyda’i gilydd ac mae ein llwyddiant yn dibynnu ar weithio mewn a gyda chymunedau ac unigolion. Lle bynnag rydyn ni’n gweithio ein nod yw dangos parch dwfn at ddiwylliant, iaith a thraddodiadau’r cymunedau. Gyda’r Cynnig Cymraeg newydd hwn rydym yn falch o fod yn gweithio ar sail gadarn o ddarparu ystod eang o wasanaethau drwy’r Gymraeg ac o gydnabod ei phwysigrwydd yn nhreftadaeth y DU, ac yn bwysicach na hynny, ei dyfodol.”

 

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg,

Dwi eisiau i gymaint o bobl â phosibl ddefnyddio’u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg. Rwy’n arbennig o falch o allu rhoi cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg i WWF Cymru. Mae WWF yn gwneud gwaith amhrisiadwy o ran yr amgylchedd, ac mae'n wych gweld y Gymraeg yn rhan bwysig o’r gwaith hwnnw. Mae’n braf gweld elusen fyd-eang yn uchelgeisiol gyda’u hymrwymiad i’r Gymraeg ac rwy’n annog eraill i fanteisio ar y cyfle hefyd.”  

WWF Cymru yn Pride Caerdydd

Pa dri pheth mae WWF Cymru yn eu cynnig yn y Gymraeg? 

  • Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol WWF Cymru yn gwbl ddwyieithog ac ymholiadau yn y Gymraeg yn cael eu hateb yn y Gymraeg.
  • Mae’r holl gyfathrebiadau, cylchlythyron, hysbysebion swyddi neu ddeunyddiau marchnata a welwch gan WWF Cymru yn gwbl ddwyieithog.
  • Mae pob aelod o staff yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth i ddysgu Cymraeg.