Skip to main content

Galwch am amddiffyniad cryfach am natur

Mae'r cloc yn ticio am ein hecosystemau bregus, ac mae angen cymryd camau brys i ail-greu a chryfhau ein deddfwriaeth amgylcheddol.

Mae ar Natur angen eich llais chi

O dan wyneb ein tirwedd ysblennydd, mae’r dystiolaeth yn dangos bod natur Cymru’n prinhau’n drychinebus. Wrth inni adael mesurau’r Undeb Ewropeaidd sy’n diogelu’r amgylchedd ar ôl, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn awr i adfer ein treftadaeth naturiol werthfawr.

Mae Brexit yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i Lywodraeth Cymru gadw a chryfhau’r cyfreithiau sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd. Un rhan bwysig o effaith bosibl Brexit ar yr amgylchedd yw hawl dinasyddion cyffredin i ddal Llywodraethau i gyfrif ac i gwyno wrth y Comisiwn Ewropeaidd er mwyn sicrhau bod y llywodraeth yn gweithredu cyfreithiau amgylcheddol yn effeithiol.

Gall y Comisiwn Ewropeaidd ymchwilio, gan fynnu i’r Llywodraeth weithredu a mynd â hi gerbron llys os nad yw’n gwneud hynny. Defnyddiwyd hyn i herio penderfyniadau neu ddiffyg gweithredu gan y Llywodraeth ar faterion o warchod llamhidyddion i ansawdd aer. Rhaid inni gadw’r hawl hwn i herio llywodraethau neu bydd natur yn talu’r pris. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth, yna mae risg byddwn yn colli’r hawl hwn sy’n golygu ni fydd gennym gorff gwarchod i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif. 

Ar ôl y refferendwm yn 2016 rhoesom groeso i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gadw egwyddorion yr Undeb Ewropeaidd, sy’n llywio’r gwaith o lunio cyfreithiau a pholisïau newydd a gwneud penderfyniadau. Yn awr mae’n rhaid i’r egwyddorion hyn, fel y rheidrwydd ar lygrwyr i dalu am unrhyw niwed maen nhw’n ei achosi, gael eu corffori i gyfraith Cymru er mwyn sicrhau na fydd yr amgylchedd yn dioddef.