Skip to main content

Cynullodd WWF Cymru y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy – clymblaid o nifer o sefydliadau yng Nghymru – i gyflwyno’r ddadl dros gyfraith ar ddatblygu cynaliadwy i Gymru.

Buom yn gweithio gyda chyfreithwyr i lunio cynnig ar beth yr oeddem yn meddwl y dylai’r gyfraith ei wneud a sut olwg ddylai fod arni, ac yna aethom ni ati i geisio ei gwireddu.

Arweiniodd ein gwaith at basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Croesawyd hon fel y gyfraith gyntaf o’i math yn y byd.

Mae’r gyfraith yn gwneud datblygu cynaliadwy’n ‘brif egwyddor drefniadol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru’. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i swyddogion cyhoeddus, wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau, ystyried eu heffeithiau ar y cenedlaethau a fydd yn ein dilyn, ac anghenion y cenedlaethau hynny.

Hefyd sefydlodd y Ddeddf swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Dechreuodd y Comisiynydd cyntaf, Sophie Howe, yn ei swydd yn gynharach eleni, a’i gwaith yw bod yn hyrwyddwr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a helpu’r sector cyhoeddus i wneud popeth a all i hybu datblygu cynaliadwy.

Mae’r gyfraith hon yn rhoi cyfle anhygoel i Gymru arwain y byd. Dyna pam yr ydym ni’n gweithio’n galed gyda gwleidyddion a’n cydweithwyr yn y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy i wneud yn siŵr y caiff y Ddeddf ei gweithredu’n iawn gan Lywodraeth Cymru.

Rydym ni eisiau gweld newid gwirioneddol drawsnewidiol yn y ffordd mae’r llywodraeth yn meddwl ac yn gweithredu – symud i ffwrdd o agwedd tymor byr i wneud penderfyniadau mewn ffordd gydgysylltiedig a strategol sydd wir yn ystyried anghenion Cymru a’r byd yn y dyfodol.

Cyn yr etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016, gosodasom brofion allweddol ar gyfer gwaith y Llywodraeth newydd wrth weithredu’r Ddeddf, sy’n cynnwys gweithredu ar y pethau canlynol:

  • cartrefi cynnes i bawb;
  • moroedd iach a chynhyrchiol; ac
  • economi gynaliadwy.