Skip to main content
Cardigan mural

Artist stryd yn dod a barddoniaeth yn fyw ar gyfer Awr Ddaear

Rydyn ni wedi uno gyda’r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth, Llenyddiaeth Cymru, a disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Dewi Sant, Y Rhyl; Ysgol Gynradd Aberteifi ac Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci i ysgrifennu cerddi sydd wedi cael eu trawsnewid yn waith celf cyhoeddus.

Crëwyd y murluniau gan yr artist stryd Bryce Davies o Peaceful Progress. Cafodd y gweithdai barddoniaeth eu hwyluso gan Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.   

Mae’r prosiect celf stryd yn tynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Bydd y murluniau ar y waliau am gyfnod amhenodedig wrth i etholiadau’r Senedd ym mis Mai agosáu a chynhadledd hinsawdd byd-eang COP26 yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Treorchy Treorchy

Gwaith celf ysbrydoledig yn dangos dyheadau plant am ddyfodol disglair ar gyfer natur Cymru

Mae’r darnau trawiadol sy’n darlunio natur leol megis gwylanod, blodau gwyllt, gwenyn, dwrgi, crëyr ac hyd yn oed draig yn rhan o brosiect Awr Ddaear i Gymru gyfan fu’n gweithio gydag ysgolion a chymunedau yn y Rhyl, Sir Ddinbych; Treorci, Cwm Rhondda ac Aberteifi, Ceredigion. 

 

Mae’r dair cerdd sydd wedi cael eu creu i gyd yn unigryw ac yn adlewyrchu’r ardal leol a dymuniadau’r plant ar gyfer dyfodol natur Cymru a mynd i’r afael â newid hinsawdd.   

rhyl mural

Geiriau cenedlaethau’r dyfodol i’w clywed yn COP26

Dywedodd Rhian Brewster o WWF Cymru:  

  

“Mae Awr Ddaear yn foment pan mae miliynau o bobl o gwmpas y byd yn dod ynghyd dros natur a phobl, i alw am newid. Roeddem ni eisiau achub ar y cyfle hwn i roi llais i’r plant, cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, i ofyn iddyn nhw beth roedden nhw eisiau ei weld. Nid yn unig y bydd eu geiriau’n cael eu hanfarwoli fel murlun hardd yn eu tref leol, byddan nhw hefyd yn cael eu cyfleu i arweinwyr y byd wrth iddyn nhw benderfynu ar y camau nesaf at weithredu ar newid hinsawdd, yng Nghynhadledd COP26 yn Glasgow yn ddiweddarach eleni.  

  

Hoffem ddiolch i ddisgyblion ac athrawon pob un o’r tair ysgol am fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn, yn ogystal a pherchnogion yr adeiladau am gynnig eu waliau ar gyfer y murluniau Chynghorau Sir Ceredigion, Rhondda Cynon Taf a Sir Ddinbych am eu cefnogaeth barhaus wrth sicrhau ei lwyddiant.”    

Earth Hour mural in Treorchy, Wales Treorchy children

Prosiect sy’n ymbweru plant

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:  

  

“Mae ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru yn ganolog i’n gwaith, a bu’n bleser mawr bod yn rhan o greu’r murluniau gwych yma trwy ein prosiect Bardd Plant Cymru. Mae prosiectau ysgrifennu creadigol a barddoniaeth fel hwn yn grymuso ein plant i fynegi eu hunain ac i gael hwyl gyda geiriau, a all gael effaith mor gadarnhaol ar eu llesiant.”

treorchy

Gobaith plant ysgol yw bydd y murluniau yn helpu amddiffyn hinsawdd a natur ar gyfer y dyfodol

Dywedodd Alec, disgybl yn Ysgol Gynradd Aberteifi:

“Wnes i wir fwynhau dysgu a chreu’r gerdd gyda Bardd Plant Cymru, Gruff yn ystod y sesiynau byw. Wnes i fwynhau trafod gwaith WWF Cymru ac rydw i’n edrych ymlaen at weld sut mae’r murlun yn edrych. Gobeithio fydd e’n dangos faint rydyn ni eisiau amddiffyn ein hinsawdd a natur yr ardal”.

 

 

Dywedodd Ffion, disgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen:

“Wnes i fwynhau’r profiad gymaint! Fe wnes i ddysgu geiriau newydd sy’n unigryw i’r cwm, ac fe wnaeth hefyd wneud i fi sylweddoli bod Cwm Rhondda yn le mor brydferth i fyw, yn llawn hanes a chymeriad. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y murlun wedi ei orffen yn fuan!”

 

 

Dywedodd Mia, disgybl yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant:

“Fe wnes i garu’r profiad yma, rhywbeth mor wahanol. Rydw i’n edrych ymlaen at ei weld ac fe fydd yn fy atgoffa i o fy amser yn Ysgol Dewi Sant ac yn gwneud fi’n falch ohono. Mae gofalu am ein byd yn beth da i’w wneud ac mor bwysig, rydyn ni’n gobeithio bydd ein cerdd ni’n helpu pobl i ddeall hynny. Mae ein ardal ni mor brydferth!”

Rhyl

Ble mae’r murluniau?

Abertefi 

 ar Stryd Priory Street, nesa at Gaffi Sgwâr Finch

 

Rhyl 

 ar wal gefn siop B&M Bargains yn edrych dros Faes Parcio Canolfan y White Rose West Parade

 

Treorchi

 ar wal ochr tafarn Y Lion, Bute St

Cardigan mural

Geiriad cerddi Aberteifi

Aberteifi 

gan blant blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Aberteifi  a Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru. 

 

Ni yw’r dyfrgwn sy’n whare’n yr afon 

a chynnyrch y pridd ar y bwrdd; 

ni yw’r wên ar wynebau hen ddynion 

a’r wylan sy’n hedfan i ffwrdd. 

Ni yw’r pysgod a’r castell a’r perci i gyd; 

ni yw’r plant sydd yn gwarchod dyfodol ein byd. 

 

Earth Hour mural in Rhyl, North Wales

Geiriad cerddi Rhyl

 

gan blant blwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Y Rhya Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru. 

 

Lle mae’r tywod yn felyn fel doughnuts o’r ffair, 

lle mae ffrindiau a blodau a gwenyn a gwair. 

Lle mae golau’r arcêd fel haul ar y dŵr 

a’r bryniau’n y pellter a’r gwylanod a’u stŵr. 

Pethau bychain fel hyn yw'n bywydau ni’i gyd. 

Pethau bychain sydd angen i newid y byd. 

 

Treorchi Treorchy

Geiriad cerddi Treorci

gan blant blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci a Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru. 

 

Ni yw’r ‘Rhondda Rebels’, ‘Y Treorchy Trojans’; 

ni yw arogl y goedwig a’r Gwmrâg dan wyneb y pridd. 

Ni yw’r ‘Bopas’ a’r ‘Butties’; ni yw ‘Dreigiau Cymru’; 

ni yw’r rhai sy’n gwybod taw cewri sy’n byw mewn tai teras; 

ac ni yw’r rhai sy’n mynnu dyfodol. Rhywle i whare a wherthin a thyfu’n hen 

heb ofan llifogydd, ac afon lân sy’n canu’r dydd a chanu’r nos.