Skip to main content
A fulmar (Fulmarus glacialis) perches atop a rocky cliff near Câr y Môr seaweed farm in Pembrokeshire, Wales.

arwr cudd dros bobl a natur

Rydym yn dathlu derbyn bron £1 miliwn dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr cymunedol mwyaf y DU, i ddatgloi pŵer gwymon. Mae gwymon yn arwr cudd dros bobl a natur, a gallai helpu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng natur. 

Bydd yr arian yn galluogi WWF-UK a’i phartneriaid i weithio gyda chymunedau ar arfordir Sir Benfro i ddatblygu model o ffermio gwymon atgynhyrchiol a arweinir gan gymunedau, a chefnogi’r gwaith o dyfu diwydiant cynaliadwy a chyfrifol ar draws y DU er budd cymunedau lleol, natur a’r hinsawdd.  

Seaweed is pulled from the water at Câr-Y-Môr seaweed farm in St Davids, Pembrokeshire, Wales.

Traddodiadau gwymon

Yng Nghymru ac ar draws y DU, mae traddodiad hir o gasglu gwymon gwyllt i’w defnyddio mewn bwydydd fel bara lawr yng Nghymru.

Yn wahanol i gnydau amaethyddol eraill, nid oes angen ar wymon gwrtaith, plaladdwyr, dŵr croyw na thir, ac mae’n tyfu’n gyflym. Gall ffermydd gwymon atgynhyrchiol ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o fwyd iach ac amrywiaeth o gynnyrch sy’n deillio o wymon (gan gynnwys bwyd, bwyd anifeiliaid, cynnyrch fferyllol a gwrtaith); yn ogystal â gwasanaethau ecosystem fel lliniaru newid hinsawdd, gwella ansawdd dŵr, gwella bioamrywiaeth a hwyluso twf economaidd ar gyfer cymunedau arfordirol.  

Seaweed grown on lines at Câr y Môr Pembrokeshire, Wales.

Mae’n cymryd tîm

Bydd WWF UK yn gweithio mewn partneriaeth â thri phartner craidd gan gynnwys un o arloeswyr ffermio gwymon y DU, Câr-y-Môr yn Nhyddewi, Sir Benfro, i godi ymwybyddiaeth o fuddion gwymon a’i dreftadaeth gyfoethog yn y rhanbarth. 

Mae Sefydliad Gwyddor Forol yr Alban (Scottish Association for Marine Science neu SAMS) yn gweithio i gipio safbwyntiau rhanddeiliaid cymunedol Sir Benfro sy’n cael eu heffeithio gan ffermio gwymon, neu sy’n cymryd rhan ynddo; bydd corff Plant Ecology Beyond Land (PEBL) yn monitro effeithiau ffermydd gwymon ar fioamrywiaeth a hinsawdd, gan greu cronfa ddata mynediad agored y bydd ffermwyr gwymon a chymunedau’n gallu bwydo’n uniongyrchol iddi er mwyn datblygu arferion cynaliadwy. 

Cronfa Gweithredu Hinsawdd

Daw’r grant hwn o Gronfa Gweithredu Hinsawdd, ymrwymiad gwerth £100 miliwn dros 10 blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i’r gwaith o gefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu yn erbyn newid hinsawdd, a chynnwys mwy o bobl i weithredu dros yr hinsawdd. Mae hyn yn rhan o bedwar nod allweddol yr ariannwr yn ei strategaeth 2030 sef ‘Cymuned yw’r man cychwyn’ – yn cefnogi cymunedau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy.

Lansiodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei strategaeth ‘Cymuned yw'r man cychwyn’ yn ddiweddar, a fydd yn sail i’w hymdrechion i ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol gwerth o leiaf £4 biliwn erbyn 2030.  

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae gan yr ariannwr bedwar nod allweddol, sef cefnogi cymunedau i ddod at ei gilydd, i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol, helpu plant a phobl ifanc i ffynnu, a galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach. 

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Diolch iddynt y llynedd (2023/24), dyfarnwyd cyllid gwerth dros hanner biliwn o bunnoedd (£686.3 miliwn), arian a newidiodd bywydau, gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled y DU, gan gefnogi mwy na 13,700 o brosiectau i roi eu syniadau gwych ar waith.