Skip to main content

MOROEDD EIN DYFODOL 

Moroedd iach a chydnerth Cymru 

MORWELLT – EIN CYFAILL WRTH FYND I’R AFAEL Â’R ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR

Mae gan y môr botensial mawr i’n helpu ni i addasu ar gyfer a lliniaru effeithiau newid hinsawdd a gwrthdroi colli natur. Ond rhaid iddo fod mewn cyflwr iach a rhaid defnyddio ei adnoddau’n gynaliadwy i wneud hynny. 

Mae morwellt yn amsugno carbon ac yn ei storio, ac mae’n cynnig cartref hollbwysig i natur. Gall dolydd iach hefyd helpu i amddiffyn cymunedau rhag effeithiau erydu arfordirol a llifogydd. Fodd bynnag, rydyn ni wedi colli hyd at 92% o ddolydd morwellt y DU. 

Mae WWF Cymru’n gweithio gyda Project Seagrass i adfer dolydd morwellt yng ngogledd Cymru, ac i alw am adfer morwellt ar raddfa fawr ledled Cymru. 

A fulmar (Fulmarus glacialis) perches atop a rocky cliff near Câr y Môr seaweed farm in Pembrokeshire, Wales.

MOROEDD CYMRU

Mae’r môr yn cyflenwi bron hanner yr ocsigen a anadlwn, yn amsugno mwy na chwarter o’r carbon deuocsid a gynhyrchwn, yn rheoleiddio’r hinsawdd ac yn cyfrannu at ddiogeledd bwyd. 

Mae moroedd Cymru’n amgylchynu 43% o Gymru ac maent yn gartref i doreth o fywyd morol gan gynnwys cytrefi o adar morol o bwys byd-eang a chynefinoedd pwysig fel morwellt a gwymon. Maent yn cynnal diwydiannau, bywoliaethau, diwylliannau a chymunedau. 

Er hynny, mae iechyd ein moroedd yn dirywio ac maent dan fygythiad gan lygredd, gweithgareddau anghynaliadwy pobl a newid hinsawdd.  

SEAGRASS OCEAN RESCUE

Fel rhan o’r prosiect DU gyfan hwn, mae WWF Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol i adfer dolydd morwellt. 

Yn 2020, plannwyd dau hectar o ddolydd morwellt yn llwyddiannus gennym ar safle peilot yn Dale, yn nyfrffordd Aberdaugleddau. 

Yn 2022, lansiom brosiect i adfer deg hectar o ddolydd morwellt ar arfordir Cymru, yn Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn.  

Rydym yn bwriadu plannu mwy na 5 miliwn o hadau morwellt erbyn diwedd 2026. Mae plannuyn dechrau ar Benrhyn Llŷn. y gaeaf/gwanwyn hwn 

A hand full of shellfish and seaweed line at Car y Mor regenerative ocean farm in Wales.

RHEOLI EIN MOROEDD

Trwy reoli ein moroedd yng Nghymru yn well, gallwn sicrhau eu bod yn parhau i roi inni fuddion hanfodol a chyfleoedd cyffrous ar gyfer arloesi a bywoliaethau cynaliadwy.  

Gall moroedd iach a chydnerth Cymru gynnig amrywiaeth o fuddion gan gynnwys: 

  • diogeledd bwyd, 

  • bywoliaethau cynaliadwy, 

  • amddiffyniad rhag erydu arfordirol 

  • buddion o ran llesiant. 

Mae hefyd ganddynt y potensial i gynnal diwydiannau newydd a allai’n helpu ni i gyrraedd sero net. 

Enghraifft o hyn yw ffermio morol atgynhyrchiol – sef tyfu gwymon a physgod cregyn ochr yn ochr â’i gilydd yn y gwyllt. Mae gwymon yn fwyd llawn maethynnau ac mae ganddo’r potensial cyffrous i’w ddefnyddio fel porthiant amgen i anifeiliaid er mwyn lleihau nwy methan, fel bio-blastig yn lle pecynnau plastig a mwy. 

Seaweed grown on lines at Câr y Môr Pembrokeshire, Wales.

FFERMIO MOROL YN SIR BENFRO

Rydym yn gweithio gyda’r fferm forol atgynhyrchiol Câr y Môr yng ngorllewin Cymru, i gefnogi’r gwaith o dyfu diwydiant gwymon cynaliadwy yng Nghymru. 

Câr y Môr yw’r fferm gyntaf dan berchnogaeth gymunedol yng Nghymru. Ei nod yw gwella iechyd y môr a chefnogi llesiant cymunedol trwy gynnig swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli/dysgu cynaliadwy. 

Rydym yn gweithio gyda Câr y Môr i fesur budd y fferm i natur a’r amgylchedd ac i archwilio’r rôl bosibl y gallai gwymon ei chwarae i’n helpu ni i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.   

Portrait of Issy Inman using a microscope to study marine life connected with seagrass. Swansea University, Swansea, Wales, UK.

GWNEUD GWAHANIAETH

Bydd angen i ddiwydiant, sefydliadau amgylcheddol, sefydliadau addysgol a’r llywodraeth gydweithio i adfer a gwarchod moroedd Cymru. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth ac uchelgais drwy: 

  • Greu rhaglen adfer moroedd sy’n arwain y byd ac sydd wedi ei chefnogi gan ymrwymiadau cyfreithiol a buddsoddiad. 

  • Gweithio gyda chymunedau a defnyddwyr y môr i reoli a gwarchod y gwelyau morwellt iach sydd ar ôl yng Nghymru. 

  • Buddsoddi mewn rhaglen uchelgeisiol i adfer morwellt ar hyd arfordir Cymru. 

  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu diwydiannau arloesol a chynaliadwy, fel ffermio gwymon. 

Crated Fish

BETH ALLA’ I EI WNEUD?

Dewis bwyd môr cynaliadwy! 

Drwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, gallwch helpu i warchod moroedd y byd a’r 800 miliwn o bobl sy’n dibynnu arnynt am eu bwyd a’u hincwm.