Skip to main content

Straeon Gwlad Ein Dyfodol

O ffermio atgynhyrchiol i gydweithfeydd cymunedol – dyma straeon amaeth-ecoleg ar waith ar draws Cymru.

Rest Farm, Carmarthenshire

Aled Evans, Rest Farm

Mae Aled Evans yn rheolwr glaswelltir arloesol sy’n ffermio’n atgynhyrchiol mewn partneriaeth â’i frawd, Iwan, ar 500 erw o dir wedi’i nythu rhwng mynyddoedd hynafol y Preseli a chlytwaith o gaeau cefn gwlad Sir Gaerfyrddin.

Wrth dyfu i fyny ar fferm, roedd tad Aled ac Iwan wedi sicrhau bod y ddau yn gwerthfawrogi’r byd naturiol ac wastad yn dweud wrthynt y byddai’r tir yn gofalu amdanyn nhw pe baen nhw’n gofalu am y tir.

Nid ffermio fu’r ddau frawd i ddechrau. Bu Aled yn gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd am ddeng mlynedd ac mae Iwan yn gweithio i Microsoft, ond pan ymddeolodd eu Modryb, penderfynodd y ddau ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli Fferm Rest ger Hendy-gwyn ar Daf.

Gwell gwylio na darllen? Sgroliwch lawr am fideo.

Aled, a farmer in Carmarthenshire, standing with his herd.

Fferm laeth gonfensiynol oedd Fferm Rest gynt, ond gwelodd Aled ac Iwan gyfle i wneud pethau’n wahanol. Roedd y brodyr eisiau datblygu system ffermio sefydlog y gellid ei hefelychu o un flwyddyn i’r llall, felly penderfynon nhw seilio eu busnes ar dair elfen:

  1. Etifeddiaeth – gofalu am yr amgylchedd a’r gymuned
  2. Ffordd o fyw - ddim yn gweithio mwy na 50 awr yr wythnos ar gyfartaledd, gyda phob yn ail benwythnos yn rhydd, a gwyliau
  3. Elw – ennill bywoliaeth dda wrth dyfu bwyd o ansawdd da.

Roedd y sychder yn 2018 wedi gwneud iddynt feddwl yn fwy gofalus am reoli glaswelltir, systemau gwreiddiau a phridd. Roeddent yn sylweddoli bod gan rai o’u glaswelltau wreiddiau bas iawn ac nad oedd hyn yn dda ar gyfer gwrthsefyll sychder.

Mae’r system bori ar gyfer 480 o wartheg Aberdeen Angus, Henffordd a Belgian Blue yn cael ei gynllunio fis ymlaen llaw. Mae’r gwartheg yn cael eu symud bob dydd a rhoddir cyfnod gorffwys hir o 30-100 diwrnod i’r borfa.

"Mae’n dynwared systemau pori mwy naturiol fel y buail yn eu cynefin naturiol lle mae’r gwartheg yn symud ymlaen ar ôl gorffen pori ardal... Rydyn ni’n cael 50 sgwrs y dydd am laswellt...mae gennym obsesiwn."

Aled Evans
Mae mwy o amrywiaeth o blanhigion sy’n dod â mwy o faethynnau wedi rhoi mwy o reolaeth i ni ar draws y system ... sydd bellach yn llawer mwy gwydn gyda mewnbynnau rhatach a’r gallu i wrthsefyll sychder yn well ..”

Mae’r gwreiddiau ar draws y fferm yn ddyfnach o lawer erbyn hyn, gan ddenu mwy o faethynnau. Maen nhw wedi treialu plannu’n uniongyrchol ac mae ganddyn nhw gaeau gydag amrywiaeth o blanhigion – ysgellog, plantain, timothy, meillion coch a gwyn a phys y ceirw. Erbyn hyn, nid ydynt yn defnyddio gwrtaith nitrogen o gwbl. Felly, nid yw cost gynyddol ddiweddar gwrtaith wedi effeithio ar y busnes ac maent wedi arbed ffigur 5 rhif drwy beidio â phrynu gwrtaith a phorthiant. Gan fod eu system ffermio bellach yn fwy gwydn yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd, ni chafodd y sychder yn 2022 effaith sylweddol ar eu porfa.

‘Mae’n wefr go iawn gweld sut mae natur yn arallgyfeirio ar y fferm dros

Nododd archwiliad bioamrywiaeth gynnydd mewn adar fel yr ehedydd a’r llinos. Mae hyn o ganlyniad i’r lefelau uchel o greaduriaid di-asgwrn-cefn ac aeron sy’n byw yn y gwrychoedd am nad ydyn nhw’n cael eu torri’n aml. Mae’r gwrychoedd wedi cynyddu lefelau bioamrywiaeth, maent wedi bod yn gysgod i’r gwartheg yn ystod cyfnodau poeth ac nid ydynt wedi cael effaith negyddol ar gynhyrchiant.

Erbyn hyn, mae Fferm Rest wedi’i ‘Ardystio’n Atgynhyrchiol gan AGW’ (A Greener World), ac mae wedi bod drwy broses ardystio gyfannol drylwyr sy’n edrych y tu hwnt i garbon pridd i fwyd iachach, systemau bioamrywiol, aer a dŵr glân, amodau gwaith da a lles anifeiliaid. Yn hollbwysig, mae’r ardystiad yn cynnwys cynllun parhaus a phroses archwilio blynyddol ac mae’n rhoi hyder iddyn nhw a’u cyflenwyr eu bod yn gwneud y peth iawn.

The family at Rest Farm, Carmarthenshire

Mae’r fferm yn gwneud cynnyrch sy’n cael ei ffermio’n atgynhyrchiol yn fwy hygyrch yn eu hardal leol ac mae gwerthu o ddrws i ddrws yn mynd yn dda. Mae danfon nwyddau yn drip i’r teulu cyfan, yn cynnwys y plant, gan roi hwb i’r cysylltiad rhwng pobl ac o ble daw eu bwyd. Ymhellach i ffwrdd, drwy waith ar laswelltir daethant i adnabod cwmni byrgyr HONEST, sydd wedi’i leoli yn Llundain. Maent bellach yn cyflenwi’r cwmni yn uniongyrchol, ynghyd â dau gigydd moesegol yn Llundain.

Yn 2021, i gydnabod eu dull arloesol a phroffidiol o ymdrin â ffermio natur, enillodd Aled ac Iwan wobr Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn yng ngwobrau Farmer’s Weekly. 

“Rydyn ni’n datblygu busnes ffermio rydyn ni’n falch iawn ohono, yn datblygu’r amgylchedd, pobl, a’r gymuned - ac yn cael hwyl wrth wneud hynny.”

Aled Evans