Ein hymgyrch
Bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf yn hollbwysig i’r gwaith o greu Cymru sefydlog ac iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a’n hamddiffyn ni rhag y rhannau gwaethaf o’r argyfwng natur a hinsawdd.
Yn 2024, cytunodd y Senedd yn unfryd i gefnogi’r gwaith o greu Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd sy’n rhoi anghenion pobl, natur a’r hinsawdd wrth galon unrhyw weithredu yn y dyfodol.
Mae’r cynllun yn hollbwysig oherwydd amaethyddiaeth anghynaliadwy yw prif sbardun colli natur, ac mae Cymru’n un o’r gwledydd mwyaf prin o natur yn y byd, lle mae un ym mhob chwe rhywogaeth a asesir mewn perygl difodiant.

Camau mwy cynaliadwy, sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd a natur
Yn ogystal, mae effeithiau newid hinsawdd eisoes yn taro ffermwyr yn eu pocedi, a thywydd gwael eithafol fel sychder a llifogydd yn costio degau o filiynau o bunnoedd i ffermwyr bob blwyddyn.
Heb gefnogaeth a ariennir gan drethdalwyr, mae dyfodol natur a ffermio dan fygythiad.
Safwn gyda’r diwydiant ffermio yng Nghymru a’r ymdrechion sydd ar y gweill i wneud y sector yn fwy cynaliadwy trwy geisio cynhyrchu bwyd tra’n ymladd newid hinsawdd ac adfer natur. Ni ddylai ffermwyr ysgwyddo’r baich o symud at weithredoedd mwy cynaliadwy sy’n ystyriol o’r hinsawdd a natur heb gymorth.

Pecyn cryf o gymorth
Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod haenau Dewisol a Chydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n weithredol ochr yn ochr â’r haen Gyffredinol ar ddiwrnod lansio’r cynllun yn 2026, i wobrwyo ffermwyr am uwch weithredoedd dros natur a’r hinsawdd.
Mae llawer o gefnogaeth i ffermwyr Cymru ymysg y cyhoedd o hyd ac mae WWF yn sefyll ochr yn ochr â’r ffermwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig pecyn cryf o gefnogaeth a fydd yn galluogi i gymunedau a chynhyrchiant bwyd cynaliadwy ffynnu ochr yn ochr â byd natur.
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei dylanwad i sicrhau bod y cannoedd o filiynau o bunnoedd sy’n cael eu buddsoddi yn helpu i adfywio ein byd.

“MAE HYN YN YMWNEUD Â GADAEL AR ÔL RYWBETH GWELL NA’R HYN Y NAETHON NI GANFOD YN Y LLE CYNTAF”
Liz Findlay, o fferm Nantclyd, yw un or ffermwyr o’n hadroddiad Gwlad Ein Dyfodol.
Mae hi’n ffermwr cenhedlaeth gyntaf sydd, dros 30 mlynedd, wedi datblygu busnes fferm gymysg gynaliadwy sy’n gweithio mewn cytgord â byd natur.
Dywed Liz: “Dim ond ceidwad y tir ydw i. I mi, mae’n ymwneud â gadael ar ôl rywbeth gwell na’r hyn y naethon ni ganfod yn y lle cyntaf … rhywbeth a fydd yn bwydo cenedlaethau’r dyfodol… Mae’n ymwneud â’r plant a’r dyfodol.”

GWLAD EIN DYFODOL – FFERMWYR CYMRU’N ARWAIN Y FFORDD
Mae ffermio wrth wraidd sut rydym yn defnyddio tir ar draws bron i 90% o dirwedd Gymru.
Felly, mae cefnogi ffermwyr i ddilyn arferion sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur yn hollbwysig i ddiogelu ein dyfodol a’n gallu i gynhyrchu bwyd.
Datgelodd arolwg diweddar gan WWF Cymru:
- Fod 96% o drigolion cefn gwlad Cymru yn cytuno bod gan ffermwyr Cymru ran bwysig i’w chwarae wrth warchod byd natur
- Fod 88% yn cytuno bod gan ffermwyr rôl bwysig wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd
- Fod 60% o gefn gwlad Cymru yn cytuno mai dim ond os yw ffermwyr yn gwneud newidiadau i warchod natur a hinsawdd y dylen nhw dderbyn cymorth ariannol gan y llywodraeth.
Cliciwch ar enwau’r ffermydd ar ben y dudalen hon i ddarganfod mwy am storïau'r ffermwyr a’u siwrne.

Potensial ffermio amaethecoleg
Yng Nghymru, nid oes yr un o’n hecosystemau naturiol – o’r arfordir i’r mynyddoedd – yn cael eu hystyried yn ddigon iach i wynebu bygythiadau fel newid yr hinsawdd.
Rydyn ni'n un o'r gwledydd lle mae natur wedi dirywio mwyaf ar y blaned.
Mae gan y Ddeddf a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy'r potensial i gynnig system newydd o daliadau amaethyddol lle mae amaeth-ecoleg yn ganolog; gan wella systemau bwyd a ffermio, cefnogi ffermio adfywiol, a rhoi pobl - ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a dinasyddion - wrth wraidd atebion.
Mewn partneriaeth â mudiad Gweithwyr Tir a Synnwyr Bwyd Cymru mae ein hadroddiad astudiaethau achos yn edrych ar botensial ffermio amaethecoleg, y manteision a ddaw yn eu sgil, a’r argymhellion polisi yn seiliedig ar brofiadau’r ffermwyr.
Darllenwch mwy am y chwe fferm amrywiol o Gymru yn yr adroddiad Gwlad Ein Dyfodol isod a gwyliwch y fideos.

argymhellion
Dychmygwch Wlad Ein Dyfodol lle rydym yn adfer natur, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn sicrhau bwyd iach, cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae tystiolaeth o’n hachosion achos yn arwain at bum argymhelliad:
- Gwobrwyo arferion a chanlyniadau amaeth-ecolegol yn ariannol yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach
- Cefnogi cadwyni cyflenwi o'r fferm i'r fforc
- Gwobrwyo ffermwyr am gysylltu ag ysgolion a theuluoedd incwm isel
- Parhau i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer garddwriaethol
- Parhau â chyngor ffermio amaeth-ecolegol a hyfforddiant.
Darllenwch yr adroddiad am fanylion llawn yr argymhellion.