Skip to main content

04 October 2022

Press Release


For immediate release

Office: 02920 454970

Out of hours: 07881 386445

Email: sgraham@wwf.org.uk

Cefn gwlad Cymru eisiau i ffermwyr gael eu cefnogi i daclo argyfyngau

MAE POBL CEFN GWLAD CYMRU EISIAU I FFERMWYR GAEL EU CEFNOGI I DACLO'R ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR


Mae arolwg WWF Cymru yn dangos bod 60% o drigolion cefn gwlad Cymru’n cytuno y dylai cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru fod yn ddibynnol ar ffermwyr yn gweithredu i warchod natur a hinsawdd.

Gyda’r Bil Amaethyddiaeth newydd yn cyrraedd y Senedd yr wythnos hon, mae arolwg newydd a gomisiynwyd gan WWF Cymru wedi canfod bod pobl ledled cefn gwlad Cymru wedi dangos cefnogaeth i newid mawr yn y ffordd mae ffermwyr Cymru yn derbyn cymorth.

 

Cafodd yr arolwg o 1,000 o ymatebwyr ei gynnal gan gwmni Opinion Research Services (ORS). Yr arolwg cyntaf o’i fath, mae’n arolwg cynhwysfawr o drigolion cefn gwlad Cymru, sy’n nodi bod 96% ohonynt yn cytuno bod gan ffermwyr Cymru rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o warchod natur, a bod 88% ohonynt yn cytuno bod gan ffermwyr rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Ar yr un pryd, dim ond oddeutu traean (34%) o’r trigolion sy’n cytuno bod ffermwyr eisoes yn gwneud digon dros natur ac mae’r mwyafrif (60%) yn cytuno y dylai cymorth ariannol gan Lywodraeth fod yn ddibynol ar ffermwyr yn gwneud addasiadau i warchod natur a'r hinsawdd.

Mae hyn yn gyferbyniad llwyr i’r taliadau presennol sy’n seiliedig ar arwynebedd, ac mae’n rhoi syniad amserol o’r hyn mae pobl cefn gwlad Cymru yn credu y dylai polisi ffermio ei gyflawni. 

 

Dywedodd Rhian Brewster, Pennaeth Cyfathrebu WWF Cymru: 

“Daw’r canlyniadau hyn ar adeg dyngedfennol i Gymru gyda’r Bil Amaethyddiaeth yn cyrraedd y Senedd. Mae’r arolwg hwn yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl ar draws cefn gwlad Cymru eisiau newid y ffordd mae ein system bwyd yn gweithio, o’r fferm i’r fforc.  

 “Rydym ni, ynghyd â chanran uchel o drigolion gogledd a gorllewin Cymru a’r canolbarth, yn cytuno y dylai cymorth ariannol gan Lywodraeth fod yn ddibynol ar ffermwyr yn gwneud addasiadau i warchod natur a'r hinsawdd. Mae WWF Cymru’n credu bod angen inni gefnogi ffermwyr Cymru i fabwysiadu amaethecoleg, gan gynnwys ffermio adferol fel dull a fydd yn adeiladu dyfodol gwell i bobl, natur a’r hinsawdd. Ni ellir cyflawni’r trawsnewid hanfodol hwn ond trwy wneud newidiadau beiddgar i daliadau amaethyddol er mwyn cefnogi ffermwyr i wneud y newid hwn. Mae’r Bil Amaethyddiaeth newydd yn rhoi inni gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i osod Cymru ar lwybr at ddyfodol mwy cynaliadwy.”

 

Mae’r elusen yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Bil Amaethyddiaeth newydd yn cymell ffermwyr, trwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, i fabwysiadu arferion ffermio adferol sy’n ystyriol o natur a’r hinsawdd. 

Hwn yw’r arolwg cyntaf o’i fath a chafodd ei gynnal gan WWF Cymru i ddeall barn pobl cefn gwlad am fwyd a ffermio yn well cyn i’r Senedd wneud penderfyniadau deddfwriaethol pwysig.  

 

Office: Ffôn: +44 (0) 29 20538512

Out of hours: Ffôn: +44 (0) 29 20538512

Email: sgraham@wwf.org.uk