Skip to main content

IEUENCTID CYMRU YN GALW AM WEITHREDU

Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru yn lansio eu Maniffesto Hinsawdd a Natur ar gyfer Cymru - Cynllun Gweithredu chwe phwynt ar gyfer newid.

Wales Youth Summit event capture

Casglu Lleisiau Ieuenctid

Ym mis Gorffennaf 2021 fe gyd-drefnom yr Uwchgynhadledd Hinsawdd a Natur Ieuenctid Cymru gyntaf - gan ymgysylltu â disgyblion a phobl ifanc ledled Cymru.

Rhoesom gyfle i'r dan 25 oed siarad yn uniongyrchol â Llywodraeth newydd Cymru a'u dal i gyfrif ar eu haddewidion cyn yr etholiad.

Roedd yr Uwchgynhadledd yn rhan o raglen ehangach o ymgysylltu ag ysgolion, colegau a phobl ifanc a gynhaliwyd mewn partneriaeth rhwng WWF Cymru, Maint Cymru, Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid a Chadw Cymru'n Daclus (Eco-Ysgolion).

Cyfrannodd syniadau a chwestiynau o'r sesiynau tuag at y Cynllun Gweithredu a gafodd ei drafod a'i benderfynu gan Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru.

Maniffesto Hinsawdd a Natur YCA ar gyfer Cymru

Sgroliwch i lawr i weld y Chwe Phwynt yn eu Cynllun Gweithredu.

Wyt ti’n cytuno gyda phwyntiau cynllun gweithredu’r maniffesto?

Hoffet ti gael mwy o wybodaeth am y Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid a sut y gelli di gymryd rhan?