Skip to main content

Prinhad bywyd gwyllt yn dangos bod ar natur angen cymorth cynnal bywyd

WWF Cymru’n galw am ‘Cytundeb Newydd i Natur Cymru’ ac ar arweinwyr gwleidyddol Cymru i gynyddu’r camau gweithredu yn y frwydr dros ein byd.

Mae prinhad cyflym poblogaethau mamaliaid, ymlusgiaid, amffibiaid, adar a physgod o gwmpas y byd yn arwydd amlwg bod ar natur angen cymorth cynnal bywyd, rhybuddiodd WWF heddiw. Mae adroddiad blaenllaw’r corff cadwraethol, Living Planet Report 2018, yn dangos bod meintiau poblogaethau bywyd gwyllt wedi gostwng 60 y cant ar gyfartaledd ers 1970.

Mae’r adroddiad, a luniwyd gan fwy na 50 o arbenigwyr, yn rhoi darlun difrifol o gyflwr ein planed ac yn dangos yn glir bod pobl yn byw y tu hwnt i fodd y blaned ac yn dinistrio bywyd ar y ddaear wrth wneud hynny.

Mae’n pwysleisio sut mai gweithgareddau a ysgogir gan ddefnyddiaeth pobl yw prif achos y prinhad presennol mewn bywyd gwyllt a dinistrio coedwigoedd, moroedd a thirweddau. Mae hefyd yn nodi bod y newid yn yr hinsawdd a llygredd, gan gynnwys plastig, yn fygythiadau sylweddol a chynyddol. Mae’n datgelu:

  • Mai dim ond chwarter tir y blaned sydd heb effaith gan bobl. Erbyn 2050, rhagwelir y bydd hyn yn gostwng i ddim ond degfed;
  • Bod canran adar môr y byd yr amcangyfrifir bod ganddynt blastig yn eu stumogau wedi cynyddu o 5 y cant yn 1960 i 90 y cant heddiw;
  • Yn fyd-eang, bod poblogaethau rhywogaethau dŵr croyw, fel amffibiaid, wedi prinhau 83 y cant ar gyfartaledd dros yr un cyfnod;
  • Ym mis Ebrill 2018, bod lefelau carbon deuocsid, sy’n cynhesu’r hinsawdd, wedi cyrraedd y lefel uchaf ers o leiaf 800,000 o flynyddoedd.

Mae’r tueddiadau byd-eang hyn wedi cael eu hadlewyrchu yng Nghymru:

  • Caiff rhyw 725,000 o boteli plastig eu defnyddio pob dydd yng Nghymru, ac amcangyfrifir mai dim ond 50% o’r rhain sy’n cael eu hailgylchu ar hyn o bryd;
  • Mae 1 ym mhob 14 o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu’n llwyr;
  • Mae Cymru ar y trywydd iawn i fethu ei thargedau o ran yr hinsawdd, a chynyddodd allyriadau 5%, hyd yn oed, yn 2016.

Mae Cymru wedi mynd o flaen gweddill y Deyrnas Unedig wrth osod y seiliau ar gyfer gweithredu, trwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd.

Mae WWF Cymru’n dweud y dylai’r cyfreithiau hyn ysgogi’r newidiadau mae eu hangen ac mae’n galw ar arweinwyr gwleidyddol Cymru i gynyddu’r camau gweithredu i warchod ac adfer natur ar frys. Dywed fod rhoi terfyn ar brinhad bywyd gwyllt a gwrthdroi colli natur yn galw am lefel newydd o uchelgais a gweithredu.

Dywedodd Anne Meikle, Cyfarwyddwr WWF Cymru:

“Mae dirywiad poblogaethau bywyd gwyllt yn fyd-eang yn rhybudd inni. Ni yw’r genhedlaeth gyntaf sy’n gwybod ein bod ni’n dinistrio’r blaned ac mae’n bosibl mai ni yw’r genhedlaeth olaf a all wneud unrhyw beth yn ei gylch.

“Mae Cymru tipyn o flaen gweddill y byd. Ein cyfreithiau arloesol yw’r sylfeini a ddylai wneud natur yn greiddiol i bopeth a wnawn. I ymuno yn y frwydr dros ein byd, mae angen i arweinwyr gwleidyddol gynyddu’r camau gweithredu yn sylweddol.”

Mae’r barcud, a fu bron â diflannu o’r Deyrnas Unedig ar un adeg, wedi dod yn ôl yn llwyddiannus iawn yng Nghymru, diolch i well warchodaeth a rhaglenni cadwraethol penodol. Er hynny, mae natur Cymru’n dal i fod mewn cyflwr bregus.

Mae 2020 yn flwyddyn hollbwysig pan ddisgwylir i arweinwyr adolygu’r cynnydd a wnaethpwyd ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy a Chytundeb Paris ac, yn hanfodol, trafod targedau 10 mlynedd newydd ar gyfer y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Gyda chyfle newydd i warchod ac adfer natur yn y blynyddoedd hyd at 2020, bydd Cymru’n ymuno â’r gymuned fyd-eang.

Mae WWF yn galw am Fargen Fyd-eang i Natur a Phobl. Bargen sy’n ei gwneud yn annerbyniol yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn economaidd llaesu dwylo a gwylio natur yn cael ei dinistrio. Yng Nghymru, mae WWF Cymru’n galw am y camau gweithredu canlynol:

 

Cytundeb Newydd i Natur Cymru – cynllun gweithredu 5 pwynt

  • Gwneud natur yn greiddiol i’r Llywodraeth – Llywodraeth Cymru i osod amcan llesiant newydd i adfer natur, gyda thargedau newydd llym a chynllun gweithredu sy’n cynnwys pob adran o’r llywodraeth.
  • Atal plastig rhag tagu ein moroedd a’n hafonydd – dileu plastig untro osgoadwy erbyn 2025 ac ymestyn gofynion ar gynhyrchwyr i atal gwastraff
  • Cefnogi ffermio sy’n ystyriol o natur – creu cynllun taliadau newydd ar ôl Brexit i gynorthwyo ffermwyr a rheolwyr tir eraill i adfer natur, gan warchod ac ehangu cynefinoedd a choetiroedd, a helpu rhywogaethau sydd mewn perygl i ymadfer
  • Cynyddu’r camau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ar frys – mae angen i Gymru leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fawr ac yn gyflym er mwyn helpu i gyfyngu ar y niwed, fel rhan o newid byd-eang i fod yn ‘garbon niwtral’. Mae arnom ni angen buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a gwella effeithlonrwydd ynni, fel inswleiddio cartrefi, yn ogystal â gwarchod a gwella’r systemau naturiol sy’n storio carbon.
  • Buddsoddi mewn natur, nid dinistr – dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus brynu cynhyrchion cynaliadwy, er enghraifft bwyd nad yw’n ysgogi datgoedwigo byd-eang. Dylai hefyd gynorthwyo cynhyrchwyr a chyflenwyr Cymru i gyrraedd y safonau uchel hyn; ac annog y cyhoedd i wario ein harian ar gynhyrchion a gwasanaethau sy’n dda i natur.

 

DIWEDD

 

NODIADAU I OLYGYDDION

LPR Broll a lluniau ar gael yma

Lluniau ychwanegol o'r Deyrnas Unedig ar gael yma

Enghreifftiau o boblogaethau bywyd gwyllt sy’n prinhau

  • Y Deyrnas Unedig yw un o’r gwledydd mwyaf prin o natur yn y byd, lle mae mwy nag un ym mhob saith rhywogaeth yn wynebu difodiant ac mae mwy na hanner yn prinhau. Er enghraifft:
  • Prinhaodd y draenog 75 y cant yn ardaloedd trefol y Deyrnas Unedig rhwng 2002 a 2014; credir bod hyn oherwydd colli cynefinoedd, plaladdwyr yn lleihau ei ysglyfaeth, darnio cynefinoedd, marwolaethau oherwydd cerbydau a mwy o ysglyfaethu arno.
  • Mae’r betrisen wedi prinhau 85 y cant rhwng 1970 a 2004; credir bod hyn oherwydd effeithiau dwysáu amaethyddol.

Yng Nghymru:

  • Mae’r boda tinwyn wedi ymadfer yn araf yng Nghymru ers ail-gytrefu yma tua diwedd y 1950au, ond mae’r ffigurau diweddaraf yn yr Arolwg Cenedlaethol o’r Boda Tinwyn yn 2016 yn dangos bod nifer y parau wedi gostwng mwy na thraean dros y chwe blynedd ddiwethaf, o 57 i 35.
  • Ar un adeg roedd llygoden bengron y dŵr i’w gweld yn aml ar ddyfrffyrdd Cymru ond ers y 1970au, mae ei niferoedd wedi gostwng mwy na 90%. Cyfrannodd newidiadau i arferion defnyddio tir a cholli cynefinoedd i brinhad llygoden bengron y dŵr. Fodd bynnag, cyflwyno minc Gogledd America ar gyfer ffermio ffwr gafodd effaith drychinebus ar ei niferoedd.  [Astudiaeth achos ar gael]
  • Mae’r fisglen berlog dŵr croyw mewn perygl difrifol yng Nghymru. Yn hanesyddol, cafodd misglod dŵr croyw eu hela er mwyn cael eu perlau yr oedd galw mawr amdanyn nhw. Erbyn hyn maen nhw’n cael trafferth oherwydd llygredd afonydd a phrinhad stociau pysgod. Oherwydd y rhan hanfodol maen nhw’n ei chwarae ym mywyd y fisglen berlog dŵr croyw, mae cadwraeth eogiaid a brithylliaid hefyd yn ganolog i’w goroesiad. [Astudiaeth achos ar gael]
  • Gallai’r cimwch afon crafanc wen ddiflannu o dir mawr Prydain ymhen 20 neu 30 mlynedd. Mae’r boblogaeth yn cael ei niweidio gan gimwch afon America anfrodorol, newid hinsawdd, dirywio cynefin ac effaith llygredd ar ansawdd dŵr. [Astudiaeth achos ar gael]

Ynghylch ymgyrch WWF #FightForYourWorld

I gefnogi ein galwad am fargen fyd-eang newydd i natur a phobl, mae WWF hefyd yn lansio ymgyrch fawr newydd i gyfleu maint y problemau a wynebwn – a’r rhan yr ydym ni i gyd yn ei chwarae mewn newid tynged y byd a rannwn. Bydd y penderfyniadau a wneir dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn pennu dyfodol ein byd a’r bywyd gwyllt yr ydym yn ei rannu ag ef. Ond mae WWF eisiau i bawb gydnabod bod ganddo ddewis - bod o blaid ein byd neu yn ei erbyn. Bydd yr ymgyrch yn ysbrydoli pobl i frwydro dros ein byd yn ein penderfyniadau pob dydd ynghylch sut yr ydym yn byw - o’r bwyd yr ydym yn ei fwyta i’r pethau yr ydym yn eu prynu a’r hyn rydym yn ei daflu - a thrwy gefnogi gwaith WWF dros adfer natur yn y Deyrnas Unedig, hinsawdd ddiogel, moroedd glân a choedwigoedd llawn bywyd gwyllt.

Ynghylch y Living Planet Report 2018

Y Living Planet Report 2018 yw deuddegfed rhifyn cyhoeddiad blaenllaw dwyflynyddol WWF. Mae’r adroddiad yn cynnwys y canfyddiadau diweddaraf wedi’u mesur gan y Mynegai Planed Fyw sy’n olrhain 16,704 o boblogaethau o 4,005 o rywogaethau fertebratau o 1970 i 2014. Mae fersiynau llawn a chryno o’r adroddiad ar gael yma ar ôl y lansiad.

Ynghylch WWF

WWF yw un o sefydliadau cadwraethol annibynnol mwyaf y byd, gyda mwy na phum miliwn o gefnogwyr a rhwydwaith byd-eang sy’n weithredol mewn mwy na chant o wledydd. Trwy ein hymwneud â’r cyhoedd, busnesau a llywodraethau, rydym yn canolbwyntio ar ddiogelu byd natur, gan greu atebion i’r problemau amgylcheddol mwyaf difrifol mae ein planed yn eu hwynebu, er mwyn i bobl a natur ffynnu. Cewch ddysgu mwy am ein gwaith, yn y gorffennol a’r presennol, ar www.wwf.org.uk | Cymru: www.wwf.wales



I gael rhagor o wybodaeth, copïau o’r adroddiad neu gynnwys ychwanegol, neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â:  

Heini Evans |Rheolwr Cyfathrebu WWF Cymru

Ffôn: +44 (0) 29 20538505 | Symudol: +44 (0)7909 997 846 | hevans@wwf.org.uk

Richard Nosworthy | Pennaeth Cyfathrebu WWF Cymru

Ffôn: +44 (0) 29 20538502 | Symudol: +44 (0)7920 211534| rnosworthy@wwf.org.uk