Grantiau cymunedol WWF Cymru 2025
Waw! Ers 2021, rydym wedi gwobrwyo dros £82,000 mewn grantiau cymunedol – gan gefnogi dros 100 o brosiectau a gweithgareddau ar draws Cymru.
Mae’r prosiectau i gyd yn gwneud gwaith anhygoel i warchod bywyd gwyllt, gwella mynediad i natur a chefnogi llesiant. Diolch i chi, fe wnaethom gefnogi 32 o grwpiau a gweithgareddau yn 2025 – o brosiectau natur yn ysgolion i weithdai ysgrifennu.
"I mi, roedd y cwrs yn berffaith. I rywun â PTSD Cymhleth, roedd yr elfennau awyr agored a natur yn ddelfrydol. Roedd maint y grŵp yn dda ac roedd yr hwyluso yn wych. Mae'r grŵp hwn wedi fy helpu i iacháu ac mae gen i lawer o bethau i'w dysgu."
Brecon & District MIND, Green Minds
Effaith grantiau cymunedol
92%
cynnydd mewn mynediad at natur, trwy lwybrau, arwyddion neu erddi cymunedol gwell.
88%
yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant, yn enwedig i blant, teuluoedd a grwpiau sydd wedi'u hymylu.
77%
wedi gwella bioamrywiaeth leol, o blannu blodau gwyllt brodorol i sefydlu cynefinoedd peillwyr.
86%
o brosiectau 2025 yn disgwyl cael manteision parhaus ac ysbrydoli prosiectau, adnoddau gwybodaeth ac ystafelloedd dosbarth awyr agored yn y dyfodol.
Datgloi pŵer gwymon 2025
Mae gwymon yn arwr cudd i bobl a natur a’n gallu helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yn 2025, fe wnaethom dderbyn bron i £1 miliwn dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bydd y cyllid yn ein galluogi i weithio gyda chymunedau arfordirol yn Sir Benfro i ddatblygu model o ffermio gwymon atgynhyrchiol dan arweiniad y gymuned ac i gefnogi datblygiad diwydiant cynaliadwy, cyfrifol ar draws y DU sy’n elwa cymunedau lleol, natur a’r hinsawdd.
Adfywio Cymru
Mwy o lifogydd, sychder, tanau gwyllt, a chynnydd mewn ansicrwydd bwyd – mae hyn i gyd yn effeithio ar gynhyrchu bwyd a chostau byw i deuluoedd. Mae cymunedau a natur Cymru yn dioddef, ac nid yw ein gwleidyddion wedi gweithredu digon.
Dyna pam, cyn Etholiadau’r Senedd 2026, fe wnaethom lansio ein maniffesto i Adfywio Cymru. Hyd yma, mae miloedd ohonoch chi wedi ychwanegu eich enwau.
Blwyddyn gwych am forwellt Cymru
Cawsom newyddion mawr ym mis Ionawr 2025. Y cyntaf o’i fath yn y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol – cynllun uchelgeisiol i adfer morwellt yng Nghymru. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i atal colled morwellt yng Nghymru ac yn cefnogi adfer 266 hectar o forwellt erbyn 2030.
Casglwyd un filiwn o hadau morwellt ym mis Awst, gyda’r Dirprwy Brif Weinidog yn helpu! Bydd yr hadau’n cael eu plannu ar safleoedd ar Ynys Môn a Phen Llŷn gyda Stena Line yn cefnogi ac yn galluogi plannu yng Nghaergybi.
Mae cymunedau lleol a gwirfoddolwyr wrth galon y prosiect hwn, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn. Mae eu hamser, egni a gwybodaeth leol yn amhrisiadwy, nid yn unig i lwyddiant y casgliad hadau ei hun, ond hefyd i adeiladu cefnogaeth hirdymor am adfer morwellt yng Nghymru.
Llwyddiant yn Greening Maindee,
Rydym yn dathlu’r ‘Gateway Garden’ yn Maindee a’u gwobr arian yn Sioe RHS Malvern ym mis Mai.
Bellach, mae ardal a oedd unwaith yn wag, yn cael ei defnyddio ar gyfer parcio a’n llawn sbwriel, wedi’i thrawsnewid yn safle gwyrdd cymunedol bywiog yng nghanol Casnewydd.
Cafodd Greening Maindee ei gefnogi gan y fenter Cymdogaethau Natur. Nod y prosiect yw grymuso sefydliadau cymunedol ar draws y DU i greu cynlluniau pwerus gan bobl ar gyfer natur yn eu cymdogaethau. Mae Greening Maindee yn un o dri grŵp a gefnogwyd yng Nghymru.
Nature Neighbourhoods - Greening Maindee
Eich gallu i herio Llywodraeth Cymru
Ym mis Tachwedd, pleidleisiodd y Senedd o blaid deddfwriaeth newydd hanfodol a fydd yn galluogi pobl yng Nghymru i herio penderfyniadau’r llywodraeth sy’n wael i’r amgylchedd. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth nesaf yng Nghymru osod targedau newydd ar gyfer diogelu ac adfer bioamrywiaeth.
Mae WWF Cymru wedi bod yn gweithio ar hyn ers 2017. Mae’n hen bryd! Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein galwadau ac yn ymrwymo i gyflwyno gwelliannau cyn y Nadolig i gryfhau’r set newydd o gyfreithiau hyn.
Enghraifft wirioneddol o ba mor hir y gall gymryd i gyflawni newid! Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus i’n hymgyrchoedd.
I bawb a gymerodd ran yn ein hymgyrch ‘Diogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’ – gan alw am fesurau newydd, cryfach i ddiogelu natur ar ôl gadael yr UE – diolch.