Trosolwg o’r prosiect
Mae WWF, trwy arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn cefnogi’r gwaith o adfer dolydd morwellt yng ngogledd Cymru.
Mae’r Prosiect Morwellt yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i adfer morwellt. Y dull cyntaf yw casglu hadau o ddôl gyfrannol iach a’u hailblannu mewn ardaloedd sy’n addas ar gyfer gwaith adfer. Dull arall yw casglu darnau sydd wedi golchi i’r lan, wedi storm yn aml, a’u hailblannu ar hyd darnau cysgodol o’r arfordir.
Rheolir y gwaith ymgysylltu a’r gwirfoddoli lleol gan Brosiect Morwellt, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a Chyngor Gwynedd. Maent yn cynnal sesiynau i wirfoddolwyr gasglu darnau o forwellt, plannu hadau, a chasglu hadau. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae’r ‘Hyrwyddwyr Achub Cefnfor’, sef rhwydwaith ymroddedig o bobl ifanc 11-16 oed, yn ymgysylltu’n weithredol yn y gwaith er mwyn dysgu sgiliau a datblygu fel cadwraethwyr ifanc.
Pam ydym ni’n gwneud hyn
Mae morwellt yn gynefin hanfodol yn y DU, sy’n gweithredu fel dalfa garbon ac ecosystem amrywiol sy’n cynnal bioamrywiaeth forol. Mae dail tew'r ddôl forwellt yn cynnig cysgod ac yn gweithredu fel meithrinfa i lawer o rywogaethau, gan gynnwys pysgod sy’n bwysig yn fasnachol fel y penfras a’r lleden. Fodd bynnag, mae dolydd morwellt y DU wedi dirywio’n ddramatig oherwydd nifer o bwysau gwahanol, o stormydd anrhagweladwy a thymereddau môr sy’n codi, i ddifrod gan angorfeydd cychod hamdden. Mae adfer dolydd morwellt yn bwysig i’r broses o adfer bioamrywiaeth i’n moroedd, cipio carbon o’r atmosffer, ac ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn iddynt fod yn fwy cysylltiedig â’r cynefinoedd arfordirol o’u cwmpas.
Effaith y prosiect
Ers cychwyn y prosiect ym mis Ebrill 2023, cafodd bron 2 filiwn o hadau morwellt eu plannu ar draws 6 hectar bron yng nghyffiniau Caergybi a Phenrhyn Llŷn.
Mae’r prosiect wedi creu mwy na 120 o gyfleoedd gwirfoddoli ac wedi ymgysylltu â phobl trwy gynnal dwy ŵyl forwellt flynyddol hyd yma.