Skip to main content

GWEITHREDU CYMUNEDOL AR YR HINSAWDD

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal neu fynd i ddangosiad o David Attenborough: A Life on Our Planet? Dyma bopeth mae angen ichi ei wybod.

Bumblebee on an iris flower

GWEITHREDU YN EICH ARDAL LEOL

Mae cymunedau’n fwy pwerus nag y maen nhw’n sylweddoli. Gyda’n gilydd gallwn drawsnewid ein perthynas â’r blaned, o’r gwaelod i fyny.

Dechreuwch ar y daith at newid amgylcheddol. Drwy ddangosiadau o’r ffilm David Attenborough: A Life on our Planet gallwch lywio trafodaethau sy’n rhoi llwyfan i’r materion sydd bwysicaf i chi.

Drwy weithgarwch, trafodaeth a chreadigrwydd gallwch ddod â’r bobl o’ch cwmpas at ei gilydd i sicrhau newid sydd o fudd i ni a’r cartref a rannwn.

WWF-UK's Big Beach Clean. Brighton, UK.

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Mae prosiect ysgogi gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd yn gydweithrediad rhwng Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a WWF. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn edrych ar sut i gynorthwyo cymunedau ledled y DU i ddeall sut y gallant chwarae rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

CYNNAL DANGOSIAD

Pecynnau cymorth ac asedau dangosiadau