Skip to main content

Gofynnwch i'ch arweinwyr

Nawr yw'r amser i ddweud wrth y Senedd bod rhaid i Gymru ddileu ein cyfraniad i ddinistrio coedwigoedd a chynefinoedd gwerthfawr y byd.

Mae darn o dir sy’n cyfateb i 40% o faint Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd tramor i dyfu llond llaw o nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Gymru  

Mae’r hyn rydym ni’n ei wneud, yma yng Nghymru, yn cael effaith drychinebus ar goedwigoedd a chynefinoedd hanfodol y byd.  

Mae 30% o’r tir hwn, a ddefnyddir i dyfu nwyddau fel palmwydd, soia a chig eidion sy’n cael eu mewnforio i Gymru, mewn gwledydd sydd â risg neu risg uchel o ddatgoedwigo, colli cynefinoedd a chamfanteisio cymdeithasol.  

Yn llawer o’r gwledydd hyn mae hawliau’r bobl frodorol yn cael eu tramgwyddo, mae pobl gan gynnwys plant yn cael eu gorfodi i lafurio, ac mae cynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr yn cael eu dinistrio er mwyn creu nwyddau sy'n cael eu hanfon i Gymru.   

Mae’r atebion gennym ni

 Trwy gymryd camau i fynd i’r afael â’n hôl troed amgylcheddol mewn gwledydd tramor gallwn chwarae ein rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur byd-eang. Mae coedwigoedd a chynefinoedd byd-eang nid yn unig yn darparu cartref anadnewyddadwy i bobl frodorol a chymunedau a bywyd gwyllt lleol, maent hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn iechyd ein planed a’i goroesiad yn y dyfodol.   

Yn ffodus, os gweithredwn yn awr, gallwn warchod y coedwigoedd a chynefinoedd gwerthfawr hyn sy’n hollbwysig o ran cadw cynhesu byd-eang i 1.5C.   

Rhaid inni sicrhau bod y Senedd yn deall yn iawn fod yn rhaid i Gymru beidio â chyfrannu at ddinistrio coedwigoedd a chynefinoedd gwerthfawr y blaned o hyn ymlaen.   

Y ffordd fydd yn cael yr effaith fwyaf yw dweud wrth eich Aelod o’r Senedd eich bod chi eisiau i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i wneud popeth o fewn ei gallu, i ddileu datgoedwigo, colli cynefinoedd a chamfanteisio cymdeithasol o gadwyni cyflenwi Cymru trwy alw arni i: 

  • Fynd i’r afael â’n hol troed tramor byd-eang trwy gyfri am ac adrodd ar yr allyriadau carbon sylweddol  a achosir gan Gymru tramor o ganlyniad i’r datgoedwigo a cholli cynefinoedd sy’n gysylltiedig â mewnforio nwyddau i Gymru. 
  • Ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru sicrhau nad yw’r cynhyrchion a brynant yn cyfrannu at ddatgoedwigo, colli cynefinoedd a chamfanteisio cymdeithasol mewn gwledydd tramor  
  • Cynorthwyo ffermwyr yng Nghymru i fabwysiadu dulliau ffermio adferol sy’n ystyriol o natur a’r hinsawdd i ddileu soia a phalmwydd mewn bwyd da byw sy’n gysylltiedig â cholli cynefinoedd mewn gwledydd tramor  
  • Llunio polisi’r llywodraeth fel ei fod yn ysgogi ac yn gwobrwyo cadwyni cyflenwi lleol a chynaliadwy Ffermio a Physgota o’r Pridd a’r Môr i’r Plât   
  • Ei gwneud yn ofynnol i fusnesau leihau eu hôl troed amgylcheddol tramor trwy ymrwymo i gadwyni cyflenwi mwy cynaliadwy a chydnerth er mwyn bod yn gymwys i gael grantiau gan y llywodraeth  
  • Cefnogi prosiectau rhyngwladol sydd â’r nod o ddiogelu ac adfer coedwigoedd y byd.   
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cytundebau masnach newydd yn gwarantu safonau amgylcheddol a chymdeithasol uchel.