Skip to main content

SYSTEM FWYD YNG NGHYMRU SY’N ADDAS I GENEDLAETHAU’R DYFODOL

Adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd, a gomisiynwyd gan WWF Cymru

Ein nod yw helpu i greu Cymru lle gall pobl a natur ffynnu, am genedlaethau i ddod. Bwyd – o’r hyn yr ydym yn ei dyfu, ei gynhyrchu a’i ddal i’r hyn a roddwn ar ein platiau – yw ein cysylltiad cryfaf â natur. Felly mae sicrhau bod y system fwyd yn galluogi pobl a’r blaned i ffynnu yn flaenoriaeth i WWF Cymru. 

Y sialens

Mae sut i gyflenwi bwyd iach, maethlon i bawb yn wyneb adnoddau sy’n prinhau a phoblogaeth sy’n tyfu, ac ar yr un pryd mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli natur, yn her enfawr yn fyd-eang ac i Gymru.

Mae system fwyd gynaliadwy’n hanfodol i ddyfodol ein cenedl. Mae’n ganolog i’n hiechyd a’n llesiant, ein diwylliant, cymdeithas ac economi, ac yn rhan bwysig o’r broses o fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a wynebwn.   

Fodd bynnag, mae yna broblemau systemig yn y system fwyd yng Nghymru y mae angen mynd i’r afael â nhw ar frys. Ni all llawer o bobl yng Nghymru fforddio cael deiet iach. Mae’r system fwyd yn cael effeithiau negyddol ar yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd a llesiant economaidd. Mae hyn yn llesteirio ein gallu i ffynnu fel cenedl yn awr ac yn y dyfodol. 

Rydym wedi comisiynu’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd i lunio adroddiad i’n helpu ni i ddeall sut olwg allai fod ar system fwyd sy’n addas i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Argymhellion yr adroddiad

Yn yr adroddiad, mae’r awduron yr Athro Terry Marsden a Dr Angelina Sanderson Bellamy o’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn cynnig gweledigaeth o sut olwg fyddai ar system fwyd yng Nghymru sy’n addas i genedlaethau’r dyfodol, a’r hyn mae ei angen i’w gwireddu. Eu casgliad yw bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi’r weledigaeth a’r ysgogiadau mae eu hangen i gyflawni trawsnewidiad arwyddocaol yn system fwyd Cymru.   

 

Mae’r adroddiad yn argymell: 

  • Dylai Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth system fwyd i Gymru. Byddai’r strategaeth yn helpu i gysylltu’r gwahanol rannau o’r system fwyd at ei gilydd, yr holl ffordd o’r pridd i’r plât, a allai, yn ei dro, helpu i ysgogi system fwyd fwy integredig.
  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mandadu y gallai’r pum ffordd o weithio ynghyd ag ymagwedd integredig at fwyd gyfrannu at bob un o saith nod y Ddeddf.
  • Fel rhan o’r strategaeth system fwyd newydd, dylai gweledigaeth fwyd newydd i Gymru ganolbwyntio ar ail-leoleiddio’r system fwyd, adfer cyfalaf amgylcheddol, cymdeithasol a dynol er mwyn cryfhau diogelwch bwyd a sicrhau mwy o werth yn lleol. Mae ail-gysylltu pobl â bwyd yn hanfodol er mwyn newid y system fwyd ac adeiladu dyfodol â phobl iach a phlaned iach.   
  • Dylai Cymru drawsnewid yn rhanbarth amaeth-ecolegol erbyn 2030. Dylai sector bwyd a ffermio Cymru adfywio ei sylfaen ecolegol, gan adfer natur er mwyn darparu’r nifer fawr o swyddogaethau a gwasanaethau mae ffermwyr a’r gymdeithas yn dibynnu arnynt.
  • Bydd ffermio sy’n defnyddio’r egwyddorion amaeth-ecolegol hyn yn galw am becyn cynhwysfawr o hyfforddiant a sgiliau. Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r gwaith o sefydlu canolfannau hyfforddi rhanbarthol i sbarduno cydweithredu a chyfnewid gwybodaeth 
  • Mae angen ail-adeiladu seilweithiau bwyd er mwyn cysylltu cynhyrchwyr bwyd â phrynwyr mewn ffyrdd mwy amrywiol. Er mwyn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol ac ail-gydbwyso dosbarthiad pŵer, mae angen seilwaith mewn trefi ac yng nghefn gwlad er mwyn cysylltu cynhyrchwyr bwyd â phrynwyr. 
  • Gall caffael cyhoeddus lleol a rhanbarthol – er enghraifft, mewn ysgolion, ysbytai a swyddfeydd cynghorau - helpu i greu marchnadoedd ar gyfer busnesau bwyd lleol. 
  • Dylai Cymru goleddu a datblygu marchnadoedd bwyd a chadwyni cyflenwi digidol sy’n cysylltu prynwyr â chynhyrchwyr a hybiau bwyd. 
  • Dylai Comisiwn Bwyd Cymru newydd gael ei sefydlu i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r strategaeth system fwyd. 
  • Dylai Cymru greu Fframwaith Bwyd Cyffredinol Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod gan holl bobl Cymru yr hawl i gael bwyd iach.

 

 

CYD-GREU GWELEDIGAETH NEWYDD AR GYFER BWYD CYMRU, YN SEILIEDIG AR 10 THEMÂU CYDGYSYLLTIOL ALLWEDDOL

Y camau nesaf  

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd a natur a gallai’r system fwyd fod yn ganolog i’r broses o fynd i’r afael â hwn. Yma yng Nghymru, mae gennym gyfle i gynllunio system fwyd sy’n gweithio law yn llaw â natur ac sydd wir yn sicrhau llesiant i genedlaethau’r dyfodol.    

Byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad ac yn ymchwilio ymhellach gyda rhanddeiliaid fel y gallwn ddechrau llunio system fwyd gynaliadwy yng Nghymru sy’n cyflawni dros bawb.