Diolch!
Gwnaethoch chi'r flwyddyn ddiwethaf yn bosib - yn cefnogi ein gwaith a'n tîm yn WWF Cymru.
Rydyn ni wedi cael ein hysbrydoli gan weithredoedd cymunedau, ysgolion, unigolion a sefydliadau trwy gydol 2021.
Gyda'ch cefnogaeth chi, dyma beth wnaethon ni gyflawni ...
Maniffesto WWF Cymru
Maniffesto WWF Cymru
Gwnaethoch chi gefnogi ein maniffesto ar gyfer sut y gallwn, gyda'n gilydd, greu Cymru sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Er ein bod yn byw mewn cyfnod ansicr, yn wynebu pandemig byd-eang ochr yn ochr ag argyfwng hinsawdd a natur, rydym wedi gweld y posibiliadau a'r newid sydd eu hangen i'w gyflawni.
Fe wnaethon ni herio Llywodraeth newydd Cymru i ymateb i'r cyfleoedd sydd o'n blaenau trwy:
- - Cyflwyno economi werdd a chyfiawn.
- - Diwygio'r system fwyd fel ei bod yn darparu ar gyfer natur a phobl.
- - Rhoi natur ar y llwybr i adferiad.
Rhaid inni werthfawrogi natur fel sylfaen ar gyfer cymdeithas iach sy'n hyrwyddo economi gynaliadwy. A dod yn genedl sy'n cymryd cyfrifoldeb am sut mae ein gweithredoedd gartref yn cael effaith fyd-eang ac i'r gwrthwyneb.
Prosiect Celf Stryd
Prosiect Celf Stryd
Fe wnaethon ni ymuno â Llenyddiaeth Cymru a disgyblion o Ysgol Gynradd Dewi Sant, Rhyl; Ysgol Gynradd Aberteifi ac Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci i ysgrifennu cerddi sydd wedi'u trawsnewid yn tair gwaith celf gyhoeddus ysbrydoledig.
Mae'r prosiect celf stryd barddoniaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.
Bydd y murluniau'n cael eu harddangos hyd y gellir rhagweld. Maent nawr yn bodoli fel animeiddiadau hefyd! Crëwyd y rhain ar gyfer cynhadledd hinsawdd COP26.
Uwchgynhadledd Ieuenctid Natur a Hinsawdd gyntaf Cymru
Uwchgynhadledd Ieuenctid Natur a Hinsawdd gyntaf Cymru
Ym mis Gorffennaf, gwnaethom gyd-drefnu'r Uwchgynhadledd Ieuenctid Hinsawdd a Natur Cymru gyntaf - gan ymgysylltu disgyblion a phobl ifanc ar draws Cymru.
Rhoesom gyfle iddynt siarad yn uniongyrchol â Llywodraeth newydd Cymru a'u cadw i gyfrif ar eu haddewidion cyn yr etholiad.
Cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd mewn partneriaeth rhwng WWF Cymru, Maint Cymru, Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid a Chadw Cymru'n Daclus (Eco-Ysgolion).
Cyfrannodd syniadau a chwestiynau o'r sesiynau tuag at Gynllun Gweithredu gan Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru.
Lansiwyd ‘Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang’
Lansiwyd ‘Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang’
Tua diwedd y flwyddyn, lansiwyd adroddiad 'cyntaf o'i fath'.
Datgelodd yr adroddiad fod ardal sy'n cyfateb i 40% maint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu llond llaw o nwyddau a fewnforir i Gymru.
Mae 30% o'r tir hwn, a ddefnyddir i dyfu mewnforion i Gymru, - fel palmwydd, soi ac eidion - mewn gwledydd sydd mewn perygl / risg uchel o ddatgoedwigo, colli cynefinoedd a chamfanteisio cymdeithasol.
Ond mae gennym ni'r datrysiadau. Trwy gymryd camau i fynd i’r afael â’n hôl troed amgylcheddol dramor gallwn chwarae ein rhan wrth daclo’r argyfwng hinsawdd a natur fyd-eang.
Mae coedwigoedd a chynefinoedd byd-eang nid yn unig yn darparu cartref anadferadwy i bobl frodorol, cymunedau lleol a bywyd gwyllt, ond maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn iechyd ein planed.
Ymunwyd â Nathan Wyburn, Iwan Rheon a'r bwyty Ansh, i dynnu sylw at y mater! Gellir gweld y gwaith celf, a grëwyd yn wreiddiol gan ddefnyddio bwydydd cynaliadwy a amlygwyd yn yr adroddiad, yn gartref newydd iddo yn Ansh, Caerdydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu, ond nawr mae angen i ni eu dal i gyfrif i gyflawni.