Skip to main content

TACLO'R ARGYFWNG NATUR YNG NGHYMRU

WWF CYMRU YN CYFLWYNO CYNLLUN I DACLO'R ARGYFWNG NATUR YNG NGHYMRU

RYDYM YN GALW AM BECYN O FESURAU I DDELIO Â'R ARGYFWNG NATUR YNG NGHYMRU.


Dywed ein hadroddiad diweddaraf y bydd angen i Lywodraeth Cymru gynyddu gwariant ar yr amgylchedd yn sylweddol i gwrdd ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Mae ‘Argyfwng Natur Cymru: argymhellion ar gyfer ymateb brys ar unwaith’ yn nodi nifer o bolisïau i Lywodraeth Cymru eu mabwysiadu, a fyddai’n adeiladu ar ei gweithredoedd presennol.

ARGYFWNG NATUR A HINSAWDD

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ag argyfwng natur, tra hefyd yn nodi arian ychwanegol ar gyfer gwariant amgylcheddol yn y gyllideb. Mae hyn wedi cael croeso cryf gennym.

Wrth wneud hynny, cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cronfeydd ychwanegol hyn fel ‘blaendal’.

Rydym yn galw am gryfhau'r datganiad hwnnw gydag ymrwymiad i gynyddu buddsoddiad yn yr amgylchedd i 5% o gyfanswm gwariant blynyddol Llywodraeth Cymru dros y cyllidebau nesaf.

Mae angen gweithredu ar frys i ddelio â cholled rhywogaethau a chynefinoedd, a chynnydd stormydd a llifogydd sy'n bygwth cymunedau Cymru.

DYWED ALEXANDER PHILLIPS, SWYDDOG POLISI BIOAMRYWIAETH WWF CYMRU:

“Mae Cymru yn wynebu argyfwng natur sydd angen gweithrediad ar y cyd ar frys.

“Mae angen natur arnom er mwyn ein hiechyd, ein lles a'n heconomi - felly mae'r argyfwng natur yn haeddu ymateb effeithiol. Bydd dyfodol o afonydd yn llawn pysgod; tirweddau o briddoedd iach; coetiroedd sy'n cloi nwyon tŷ gwydr; a pharciau trefol llawn blodau gwyllt a phryfed o fudd i bob un ohonom. ”

NATUR CYMRU DAN FYGYTHIAD

Mae tystiolaeth ddiweddar yn tanlinellu'r angen i weithredu. Datgelodd Adroddiad Cyflwr Natur 2019 fod 666 o rywogaethau dan fygythiad o ddifodiant yng Nghymru, ac o’r 3902 o rywogaethau a aseswyd, mae 73 eisoes wedi’u colli.

Mae rhywogaethau eiconig fel gwiwerod coch a'r llygod dŵr, a oedd unwaith yn gyffredin yng Nghymru, bellach wedi'u cyfyngu i ychydig o safleoedd ac o dan wir fygythiad o ddifodiant.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adrodd nad oes un o systemau naturiol Cymru - o'n harfordiroedd i fynyddoedd - yn ddigon iach i wynebu bygythiadau fel newid hinsawdd.

Mae dosbarthiad a niferoedd bywyd gwyllt yn arwydd cryf o iechyd ehangach ecosystemau Cymru ac yn rhybudd amlwg bod angen gweithrediad sylweddol.

MYND I'R AFAEL A'R ARGYFWNG NATUR

Mae ein hadroddiad newydd yn cynnig awgrymiadau ar sut y gall Llywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Mae'n cynnig defnyddio dulliau arloesol o adfer natur, gwella cydweithrediad a rhannu gwybodaeth.

Mae'r adroddiad yn nodi 10 cam sy'n nodweddu'r dull hwn, a fyddai'n gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag achosion colled natur.

YNGHYLCH Y POLISÏAU A CHYNIGWYD, RYDYM YN ARGYMELL BOD LLYWODRAETH CYMRU YN:

  • Ymrwymo i gynyddu ei wariant blynyddol ar gymhelli a chefnogi adferiad natur a thaclo newid hinsawdd, i 5% o gyfanswm y gyllideb.
  • Cyflwyno cystadleuaeth gyhoeddus ar gyfer prosiectau peilot sy'n defnyddio datrysiadau ar sail natur i adfer bioamrywiaeth.
  • Diddymu strwythurau diwydiannol segur a phroblematig fel coredau, argaeau a chylfatiau o afonydd i hybu bywyd gwyllt a mynd i'r afael â llifogydd.
  • Grymuso cymunedau i reoli tir sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus ar gyfer prosiectau sy'n defnyddio datrysiadau ar sail natur i adfer bywyd gwyllt ac ecosystemau
  • Ymrwymo i ddod â digwyddiadau o lygredd amaethyddol y gellir eu hosgoi i ben, gan weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu atebion.
  • Ymgorffori'r meddylfryd diweddaraf ar y cysylltiadau rhwng natur a lles yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru.

Rydym hefyd yn galw am fwy o arloesi, hyfforddiant i swyddogion cyhoeddus, cynlluniau cyllido, a mwy o gyfranogiad cymunedol mewn sut i reolir tir.