
Diolch
Wrth i ni fyfyrio ar 2024, rydym am dynnu sylw at rhai o'r straeon positif o'r flwyddyn.
Diolch yn fawr iawn gan dîm WWF Cymru am eich holl gefnogaeth.
-
© David Bebber / WWF-UK
Gwlad ein dyfodol
Llofnododd dros 2,500 ohonoch ein deiseb Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gyda chymorth Pippa’r panda, rhoesom filoedd o enwau i Ysgrifennydd y Cabinet i helpu i lunio’r cynllun.
-
© Global Warming Images WWF
Effeithiau ar ffermio
Fe wnaethom gomisiynu adroddiad ar ‘Tywydd eithafol a’i effeithiau ar ffermio', gyda'r data newydd hwn dala sylw'r cyfryngau. Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ac ehangu cymorth organig i ffermwyr ac wedi lansio polisi addasu hinsawdd.
-
© Aled Llywelyn / WWF Cymru
Cefnogaeth CFC
Dysgwch fwy am ein gwaith ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a’ch holl gefnogaeth.
/

Hadau o obaith
Cyflwynodd Rhwydwaith Morwellt Cymru, dan arweiniad WWF Cymru a Project Seagrass, Gynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol a fydd yn arwain y byd i Lywodraeth Cymru i helpu i wella’r gwaith o adfer morwellt yn gyflymach. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ariannu rôl cydlynydd cynllun morwellt i gyflawni’r cynllun.
Yn ystod yr haf, casglwyd dros 1.5 miliwn o hadau morwellt mewn ymdrech anhygoel ar y cyd gan wirfoddolwyr. Roedd ein Llysgennad WWF Cymru, Iwan Rheon, hefyd ar law i helpu!
Fe wnaethom gefnogi treial sled roboteg a blannodd dros 300,000 o hadau morwellt i hybu ymdrechion adfer.
Cymunedau Cymru
Blwyddyn o weithrediad cymunedol a chyd-weithio
-
© WWF Cymru
Awr Ddaear
Eleni, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gyflwyno neges arbennig ar gyfer Awr Ddaear. Gan weithio gyda swyddfa WWF yn y Ffindir - WWF Suomi - fe wnaethom hyrwyddo Awr Ddaear mewn tair iaith yn ystod gêm Cymru V Suomi. Bu helpu ni i gyrraedd miliynau o bobl!
-
© WWF Cymru
WWF Cymru a'r Urdd
Gan weithio gydag Urdd Gobaith Cymru, rydym yn gwella mynediad i leoliadau preswyl a chyfleoedd gweithdai amgylcheddol. Cefnogwyd nifer o leoedd rhatach ar gyrsiau cynaliadwyedd yr Urdd ar eu safle ym Mhentre Ifan, Sir Benfro.
-
© Eco Dewi / WWF Cymru
Grantiau Cymunedol WWF Cymru
Yn 2024, fe wnaethom gefnogi 29 o grwpiau gyda’n cynllun Grantiau Cymunedol – gan ddod â chyfanswm y blynyddoedd diwethaf i 72 o brosiectau! O gampws cyfeillgar i ddraenogod yng Nghaerdydd a Swap Shops yn Nhyddewi, i ardd ysgol yn Wrecsam, rydym wedi cefnogi grwpiau o bob rhan o Gymru.
/
We also recommend:


