Skip to main content

Yr hyn a gyflawnwyd yn 2022

Blwyddyn brysur i dîm WWF Cymru a gwaith WWF yng Nghymru!

A community textile workshop supported by a WWF Cymru grant. The image shows two parents and two children sitting across from each other.

CEFNOGI CYMUNEDAU

Yn y gwanwyn, rhoddwyd dros 20 o grantiau cymunedol i grwpiau ar draws Cymru.

Fel rhan o Awr Ddaear Cymru, fe wnaethom gefnogi cymunedau i weithredu yn eu hardal leol.

O weithdai tecstilau i blannu coed a chrefftau, daeth pobl o bob rhan o Gymru at ei gilydd i rannu gwybodaeth, sgiliau a chreu cyfleoedd newydd i bobl a natur ffynnu.

Seaweed being pulled from the lines in the water by a member of staff at Câr y Môr.

GWYMON



Eleni fe ddechreuon ni weithio gyda fferm gefnfor atgynhyrchiol yn Sir Benfro - Câr y Môr.

Yn 2023 edrychwn ymlaen at archwilio’r manteision niferus a’r defnydd posib o wymon, gan gynnwys sut y gall y planhigyn rhyfedd hwn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Image of Lit in place artists Sadia Pineda Hameed and Beau W Beakhouse with the title of their project - LUMIN Syllabus

Llên mewn Lle

Mae Llên mewn Lle yn brosiect newydd sydd wedi ei ddyfeisio gan Llenyddiaeth Cymru ac a gefnogir gan WWF Cymru, sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth.

Mae’r prosiect yn cynnig nawdd i awduron a hwyluswyr i greu, sefydlu a chyflawni gweithgaredd gyda chymuned benodol o’u dewis hwy.

Mae tri prosiect peilot yn cael eu cefnogi gennym yn 2022-2023, sef:

  • Gwledda, dan ofal Iola Ynyr yn Rhosgadfan;
  • Ffrwyth ein Tân, prosiect gan Siôn Tomos Owen yn Nhreherbert;
  • The LUMIN Syllabus gan Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse yn Abertawe.

Nod y prosiectau hyn yw datblygu cymunedau gwydn drwy archwilio a deall eu eco-systemau lleol. Bydd y prosiectau hefyd yn cyfrannu at drafodaethau ehangach ar ddod o hyd i atebion ymarferol i effeithiau andwyol yr argyfwng hinsawdd a natur.

LANSIO CAM DAU O'R PROSIECT MORWELLT

Yn ystod yr haf, lansiwyd cam dau o Brosiect Morwellt ar safle newydd yng ngogledd Cymru.

Bydd Morwellt Achub Cefnfor a chymunedau lleol yn dechrau plannu 5 miliwn o hadau morwellt yng ngogledd Cymru i adfer 10 hectar o ddolydd morwellt coll erbyn diwedd 2026.

Mae morwellt yn gynghreiriad pwerus wrth fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd.

Portrait of Iwan Rheon

LLYSGENNAD SWYDDOGOL WWF CYMRU

Ar ôl blynyddoedd o gefnogaeth, croesawyd Iwan Rheon fel Llysgennad swyddogol WWF Cymru.

Daeth yn llais gweithgar i WWF Cymru yn 2018. Ers hynny, mae wedi siarad yn y Senedd, wedi mwyhau ymgyrchoedd di-ri ac wedi dod yn llais dilys, dylanwadol ar yr amgylchedd yng Nghymru.

Eleni, mae Iwan wedi creu 'playlist' ddwyieithog ar gyfer Awr Ddaear 2022, cymryd rhan ym mhodlediad WWF UK - Call of The Wild Series 2 - a'i gefnogaeth barhaus i ehangu ein gwaith ar draws ei sianeli.

Aelod staff Tyddyn Teg yn pigo llysiau yn y cae o flaen y tŷ

Gwlad Ein Dyfodol

Lansiwyd ein hymgyrch Gwlad Ein Dyfodol yn 2022.

Diolch i dros 1000 ohonoch a ychwanegodd eich enw at ein deiseb yn galw am Fil Amaethyddiaeth newydd uchelgeisiol i Gymru.

Yn 2023 byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, ac yn defnyddio eich lleisiau, i weld Bil Amaethyddiaeth sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – gyda phobl, natur a hinsawdd yn ganolog iddo.

LLWYDDIANT I'N GWAITH CYMRU A CHYFRIFOLDEB BYD-EANG

Llwyddiant MAWR yn 2022 oedd gweld cefnogaeth unfrydol i gynnig a basiwyd gan y Senedd yn seiliedig ar ein hadroddiad Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang.

Diolch am gefnogi ein hymgyrch o 2021 hyd heddiw.

Nawr mae'n rhaid gweld y camau gweithredu, yn ein hadroddiad, yn cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'n heffaith ar ddatgoedwigo byd-eang.