Stori Dewi Sant
Stori Dewi Sant
Am ddiwrnod Dewi Sant, cymerwn ysbrydoliaeth i wneud y pethau bach am natur ac am ein byd.
Y bregeth ar y bryn
O fyw bywyd syml a’n gweithio wrth law ar y tir, i’r arwyddlun o’r golomen wen, mae’r chwedlau yng nglŵm i Dewi Sant yn ein hatgoffa o’n diwylliant a’n cysylltiad gyda natur Cymru.
Efallai'r enwocaf yw'r bregeth ar y bryn yn Llanddewi Brefi, Ceredigion. Yn y chwedl, wnaeth Dewi osod hances ar y llawr cyn sefyll arni. Yn sydyn, cododd bryn bach o dan ei draed a’i godi fel y gall pawb ei weld. Mae rhai yn dweud hefyd fod colomen wen wedi glanio ar ei ysgwydd.
Mae’r golomen wen yn parhau i fod yn symbol eiconig am Dewi Sant, ond mae'r golomen yn eiconig am resymau gwahanol iawn y dyddiau yma.
Rhestrir turturod [turtle-doves] fel yr adar sy’n dirywio’n gyflymaf yn y DU. Mewn 20 mlynedd, collwyd 93% o adar ac maent nawr mewn perygl gwirioneddol o ddifodiad byd-eang.
Mae turturod erioed ‘di bod yn brin yn yr Alban ag Iwerddon, ond maent nawr yn bennaf wedi diflannu o Gymru hefyd. Gyda mwyafrif y boblogaeth sy'n weddill yn ne a dwyrain Lloegr. Maent yn adar arbennig am fod yr unig rywogaeth o golomen yn Ewrop sy’n mudo pellter hir. Bob blwyddyn, maent yn cwblhau taith mamoth o'u tiroedd gaeafu yng Ngorllewin Affrica i'r DU.
Pedwar prif ffactor sydd ‘di chwarae rhan yn y dirywiad gwasgaredig o durturod. Gan gynnwys colled o gynefin priodol am fridio, lefelau o hela anghynaladwy ar eu gorymdaith ac afiechydon.
O wneud ein gerddi a'n cymunedau yn fwy cyfeillgar am natur i ddefnyddio ein lleisiau i alw am fwy o amddiffyniad, gallwn ni i gyd wneud y pethau bach i helpu natur yng Nghymru.
St David's Story
St David's Story
For St David's Day, we take inspiration to do the little things for nature and our world.
The sermon on the hill
From living a simple life and working by hand on the land, to the emblem of the white dove, the legends of St David's remind us of our culture and our connection with the Welsh nature.
The most famous is the sermon on the hill at Llanddewi Brefi, Ceredigion. In the legend, Dewi places a handkerchief on the floor before standing on it. Suddenly, a small hill rises under his feet and he’s raised so that everyone can see him. Some then say that a white dove lands on his shoulder.
The white dove remains an iconic symbol for St David's, but another dove is also iconic in Wales - for very different reasons these days.
Turtle Doves are listed as the fastest vanishing birds in the UK. In the space of 20 years, 93% of birds were lost and they are now in real danger of global extinction.
Turtle Doves have always been scarce in Scotland and Ireland, but they have now largely disappeared from Wales. With most of the remaining population in the south and east of England.
They are special birds because they are the only species of dove in Europe who migrate long distance. Every year, they complete a mammoth trip from their wintering lands in West Africa to the UK.
Four main factors have played a part in their decline. Including loss of appropriate habitat for breeding, levels of unsustainable hunting during migration and diseases.
From making our gardens and communities more nature friendly to using our voices to demand better protection, we can all do the little things to help nature in Wales.
Brwydrwch am eich byd
Brwydrwch am eich byd trwy wneud y pethau bach. O wneud rhywbeth am natur i fynnu gweithrediad o'n Llywodraeth, gall pawb ymuno a'r frwydr am eich byd.
Fight for your world by doing the little things. From doing something for nature to demanding action from Government, everyone can join the fight for your world.