Skip to main content

WWF Cymru - Ein gwaith

Rydym yn weithio tuag at Gymru cynhwysfawr a gwydn lle mae pobl a natur yn ffynnu. 

WWF Cymru team

Ein bwriad

Ein bwriad yn WWF Cymru yw i fagu partneriaethau sy’n arfogi ac ysbrydoli pobl, cymunedau ac arweinwyr eraill i gyd-greu datrysiadau teg sy’n taclo’r argyfwng hinsawdd ac adfer natur. 

Ry’n ni’n dîm bach yn gweithio o leoliadau amrywiol gyda swyddfa yng Nghaerdydd.  Rydym yn gweithio ar draws Cymru ar amrywiaeth o ymgyrchoedd a phrosiectau, yn aml mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol. Dyma rai o’r ymgyrchoedd rydym yn gweithio arno ar hyn o bryd. 

Aelod staff Tyddyn Teg yn pigo llysiau yn y cae o flaen y tŷ

Defnydd Tir

Yng Nghymru, nid oes unrhyw rai o’n systemau eco - o’r arfordir i’r mynyddoedd - yn cael eu hystyried yn ddigon iach i wynebu bygythiadau fel newid hinsawdd. 

Mae ffermio wrth galon sut ry’n ni’n defnyddio tir yng Nghymru - mae bron i 90% yn dir ffermio. 

Felly mae cefnogi ffermwyr i fabwysiadu ymarferion cyfeillgar tuag at natur a hinsawdd yn angenrheidiol i ddiogelu ein dyfodol a’n gallu i gynhyrchu bwyd. 

Mae gan y Ddeddf Amaeth (Cymru) a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy y potensial i gynnig system newydd o daliadau amaethyddol sydd wedi eu gwreiddio mewn amaeth-ecoloegol; gwella systemau ffermio a bwyd, cefnogi ffermio atgynhyrchiol a rhoi pobl - ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a thrigolion - wrth galon y datrysiad. 

Moroedd Cymru

Mae moroedd Cymru’n amgylchynu 43% o Gymru ac maent yn gartref i doreth o fywyd morol pwysig, ond mae ein moroedd yn cael eu bygythio gan lygredd, gweithgaredd anghynaladwy dynol a newid hinsawdd, ac mae’n rhaid i ni weithredu nawr. 

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru ar rai o’r atebion, i weld budd ar gyfer natur a phobl.   

Puffin

Natur

Mae ein adroddiad diweddaraf ar Sefyllfa Natur Cymru yn dangos ein bod ni bellach ymysg y gwledydd ar y Ddaear sydd wedi gweld ei natur yn teneuo fwyaf.  Ond mae hefyd yn dangos fod gweithredu dros newid hinsawdd yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. 

Mae ganddon ni’r fantais nawr o ddegawdau o adroddiadau sy’n cynnwys arferion cadwraeth da, ac i lawer o gynefinoedd a rhywogaethau mae tystiolaeth ar gael o’r hyn sy’n gweithio llwyddiannus. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos nad yw gweithredu cadwraeth natur ar ei ben ei hun yn ddigon i atal a gwrthdroi colli natur. Dyma pam mae’n angenrheidiol i ni weithio gyda’n gilydd, yn cynnwys gwleidyddiol, sefydliadau a thrigolion Cymru i daclo’r argyfwng hinsawdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.