Gweithredwch am eich byd
Mae ein byd dan fygythiad fel erioed o'r blaen. Ymunwch â mudiad o bobl sy'n galw am newid a darganfyddwch sut y gallwch leihau eich effaith eich hun.
Yn digwydd yn eich byd

BETH RYDYM YN GWNEUD
Mae natur yn hanfodol. Mae'n darparu ein system cefnogi bywyd. Ond mae o dan fygythiad fel erioed o'r blaen.
Felly yn WWF, rydym yn ymladd i adfer cynefinoedd a rhywogaethau ffyniannus. I wneud hynny, rydym yn mynd i'r afael â phrif achosion dirywiad natur - yn enwedig y system fwyd a newid hinsawdd. Ac rydym yn ysbrydoli mudiad byd-eang o bobl a fydd yn helpu i sicrhau bod adfer natur yn ganolog i'r holl benderfyniadau a wnawn yn ein bywydau bob dydd - i’w wneud yn annerbyniol yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd i ddiraddio adnoddau naturiol gwerthfawr ein planed .