Skip to main content

Hwb adroddiadau ag adnoddau Cymru

Adroddiadau ag adnoddau diweddaraf o WWF a phartneriaid.

A woman and child harvesting vegetable sin a field on Nantclyd farm.

Adroddiad Gwlad ein Dyfodol

FFERMIO AMAETHECOLEGOL: CREU DYFODOL LLE MAE POBL A NATUR YN FFYNNU

Mae ffermio Amaethecolegol yn ei holl ffurfiau yn gyfle rhagorol i gynhyrchu bwyd 
o safon uchel yn ein cymunedau. Mi all weithio â natur, yn hytrach nag yn ei erbyn, 
i adfer bioamrywiaeth a helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, i sicrhau bwyd 
iach a system ffermio i genedlaethau’r dyfodol.


Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar chwe astudiaeth achos o ffermio Amaethecolegol 
amrywiol:

  • fferm gig eidion adfywiol;
  • fferm laeth sydd wedi sicrhau ardystiad Organig a Phorfa am Oes yn Sir Gaerfyrddin,
  • menter gydweithredol sy’n tyfu llysiau organig yng Ngwynedd;
  • fferm gymysg dofednod ac wyau Fioddynamig ardystiedig ar arfordir Ceredigion;
  • fferm arfordirol gymysg ag ardystiad Organig ym Mhen-y-bont ar Ogwr 
  • a phartneriaeth bugeiliaid cynaliadwy yn ucheldiroedd Powys.

Mae hanner y ffermydd yn eiddo i’r ffermwyr, mae dwy’n denantiaethau ac mae un yn cael ei rhedeg yn gydweithredol ac maent yn amrywio rhwng o 30 i 80 erw o ran maint.

ADRODDIAD LAND OF PLENTY WWF - FFOCWS AR WLAD - CYMRU

Mae angen i dirweddau’r Deyrnas Unedig, a’r ffordd y caiff ein bwyd ei gynhyrchu a'i fwyta, newid ar frys er mwyn helpu i sicrhau sero net, adfer natur a lleihau ein hôl-droed amgylcheddol byd-eang.

Yn syml, nid oes modd cyflawni ein hymrwymiadau hinsawdd a natur yn un, heb ddod ynghyd i ail-lunio ein system bwyd yn sylfaenol.