Skip to main content

Newid Hinsawdd yng Nghymru

Mae newid hinsawdd yn effeithio pob cornel o’n planed, gan gynnwys ni yma yng Nghymru. Ond mae modd i ni wneud rhywbeth amdano. Ry’n ni’n angerddol a gwybodus, nawr mae angen i’r gwleidyddion i arwain y ffordd. 

Beth rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â newid hinsawdd yng Nghymru

The cattle, at Nantclyd farm, in the field with a backdrop of the sea and Liz in the distance..

Defnydd tir yng Nghymru

Gallwn chwarae ein rhan yn gwrthwneud dirywiaid natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd trwy newid y ffordd ry’n ni’n defnyddio ein tir yng Nghymru. Mae cefnogi ffermwyr i weithio mewn modd sy’n gyfeillgar i natur yn hanfodol i sicrhau ein dyfodol. Mae’n holl bwysig galluogi ffermydd i wynebu tywydd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd fel sychder neu lifogydd ac felly ein gallu i gynhyrchu bwyd. 

Dyma pan ry’n ni’n galw am Wlad ein Dyfodol lle mae pobl a natur yn ffynnu.  

Moroedd Cymru

Mae moroedd Cymru’n amgylchynu 43% o Gymru ac maent yn gartref i doreth o fywyd morol pwysig, ond mae ein moroedd yn cael eu bygythio gan lygredd, gweithgaredd anghynaladwy dynol a newid hinsawdd, ac mae’n rhaid i ni weithredu nawr. 

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru ar rai o’r atebion, i weld budd ar gyfer natur a phobl. 

Amazon Rainforest deforestation and fire

Y System Fwyd

Mae’r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yn cael effaith fawr ar goedwigoedd y byd a bywyd gwyllt angenrheidiol. Mae angen i ni leihau ein effaith ar y byd gan ddod o hyd i gynnyrch nad ydynt yn creu datgoedwigo dramor. 

Rydym yn galw ar Gymru i fod yn genedl rhydd o ddatgoedwigo a gofyn i Lywodraeth Cymru i addo i hyn trwy gefnogi ffermwyr Cymru i beidio mewnforio bwyd anifeiliaid sy’n cael ei gysylltu â datgoedwigo a gwarchod byd natur dramor.  

Gan ei wneud yn ofynol i’r gadwyn gyflenwi i beidio cynnwys datgoedwigo ym mholisi caffael Cymru, gall hyn fod yn realiti.  

 

Page last reviewed